Na i neonics

Does dim lle i gemegau wedi'u gwahardd mewn dyfodol gwylltach

Mae neonicotinoidau yn grŵp o blaladdwyr sy'n niweidiol iawn i'r amgylchedd a bywyd gwyllt. Maen nhw’n arbennig o beryglus i wenyn. Gall hyd yn oed ychydig bach iawn o'r cemegau yma ladd niferoedd enfawr.

Gall olion bychan iawn amharu ar allu gwenyn i symud ac atgenhedlu, gyda chanlyniadau hirhoedlog i’w goroesiad. Pan gaiff neonicotinoidau eu golchi i mewn i nentydd ac afonydd maen nhw’n eithriadol wenwynig i infertebrata dyfrol ac yn llygru ein dyfrffyrdd ni sydd eisoes mewn trafferthion ymhellach. 

Oherwydd eu heffaith amgylcheddol, fe gafodd neonicotinoidau eu gwahardd rhag eu defnyddio yn yr awyr agored yn y DU yn 2018. 

Ac eto, am y bedwaredd flwyddyn, mae Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo ‘awdurdodiad brys’ fel mae’n cael ei alw y gwnaed cais amdano gan y cwmni British Sugar ar gyfer defnyddio’r neonicotinoid hynod niweidiol, thiamethocsam, ar fetys siwgr.

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol mae British Sugar wedi gofyn i Lywodraeth y DU awdurdodi neonicotinoidau sydd wedi’u gwahardd. Rydyn ni angen eich help chi i sicrhau nad yw'r cemegau gwaharddedig yma’n niweidio bywyd gwyllt, afonydd a phriddoedd ledled y wlad.

Rhaid i Lywodraeth y DU gynnal ei hymrwymiadau i warchod byd natur, lleihau effaith plaladdwyr, a hyrwyddo ffermio sy’n gyfeillgar i fyd natur.

Ychwanegwch eich enw at y 40,000 o bobl eraill sy’n mynnu bod British Sugar yn rhoi’r gorau i ofyn i’r Llywodraeth am ganiatâd arbennig i ddefnyddio cemegau gwaharddedig – neonicotinoidau (a elwir yn neonics) – ar gnydau betys siwgr.

Cefnogwch ffermio betys siwgr heb neonig - llofnodwch ein deiseb heddiw

Bumblebee

Jon Hawkins, Surrey Hills Photography

Angen mwy o wybodaeth?

Ymchwil newydd yn dangos effaith plaladdwyr neonicotinoid ar afonydd y DU

Mae'r penderfyniadau i roi awdurdodiad brys wedi'u gwneud i ddiogelu cnydau betys siwgr rhag effaith Virus Yellows. Fodd bynnag, ym mhob un o’r tair blynedd pryd rhoddwyd caniatâd hyd yma, aeth penderfyniad y Llywodraeth i ganiatáu defnyddio thiamethocsam ar fetys siwgr yn groes i’w chyngor arbenigol ei hun. Cynghorodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a’r Pwyllgor Arbenigol ar Blaladdwyr yn erbyn awdurdodi neonicotinoidau, hyd yn oed mewn achosion lle’r oedd effaith bosibl Virus Yellows yn uchel, gan fod y risgiau i’r amgylchedd yn llawer mwy nag unrhyw fanteision i’r diwydiant betys siwgr.

Darllenwch gyngor y Pwyllgor Arbenigol ar Blaladdwyr 

Mae’r penderfyniadau hyn hefyd yn anwybyddu’r 100,000+ o aelodau o’r cyhoedd a apeliodd i’r Prif Weinidog ar y pryd yn 2021 i wyrdroi’r awdurdodiad ‘brys’ cyntaf, yn tanseilio ffermwyr sy’n gweithio gyda byd natur i leihau eu defnydd o blaladdwyr, ac yn chwalu ymrwymiad cyfreithiol-rwymol y Llywodraeth i atal dirywiad rhywogaethau erbyn 2030. 

Darllenwch ein datganiad

Rydyn ni’n trafod pam mae’r plaladdwr neonicotinoid yma mor niweidiol.

Darllen yma
ladybird

Jon Hawkins, Surrey Hills Photography

Defnydd Cynaliadwy o Blaladdwyr: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Drafft

Dadansoddiad Rhagarweiniol yr Ymddiriedolaethau Natur

Lawrlwythwch ein briff ni i ASau

Rydyn ni wedi creu dogfen ddefnyddiol er mwyn i ASau ddeall mwy am y mater hwn.

Lawrlwytho