
Eithinog Nature Reserve

Chiffchaff - Janet Packham Photography

Goldfinch © Neil Aldridge

Common spotted orchid © Paul Lane

Earth tongue © Amy Lewis
Gwarchodfa Natur Eithinog
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Haf ar gyfer blodau gwyllt; dechrau'r Hydref ar gyfer ffyngau glaswelltirAm dan y warchodfa
Ffyngau gwych
Cafodd y warchodfa natur drefol yma ei hachub rhag datblygiad gan gymuned sy’n ei thrysori. Mae dan warchodaeth oherwydd ei hamrywiaeth enfawr o ffyngau’r glaswelltir. O ddiwedd yr haf ymlaen, mae oren, pinc, coch a melyn y capiau cwyr sy’n britho’r caeau’n cyfateb i liwiau dail yr hydref wrth iddynt newid. Chwiliwch yng nghanol y glaswellt am wyrdd annaturiol bron cap cwyr y parot a melyn llachar y ffyngau cwrel. Ewch ati i grwydro’r rhwydwaith o lwybrau igam-ogam yn y gwanwyn a’r haf, ond, y blodau gwyllt sy’n rhoi’r sioe orau i chi. I gyd-fynd â melyn cribell yr ŷd fe welwch chi borffor a gwyn y tegeirianau brych cyffredin. Mae’r gwrychoedd mawr a’r llwyni eithin yn llawn sŵn adar yn nythu, fel y ddryw felen a llwyd y berth.
Buchod trefol
Mae’r warchodfa’n cael ei rheoli’n bennaf i gadw’r glaswelltir yn y cyflwr gorau ar gyfer y ffyngau. Mae gwartheg yn pori’r safle, gan reoli’r prysgwydd a chynnal y glaswellt byrrach sy’n galluogi i ffyngau a blodau gwyllt ffynnu. Mae’r buchod – sydd ag enwau i gyd – yn cael eu monitro gan dîm rhagorol o wirfoddolwyr, sy’n gwneud yn siŵr eu bod yn hapus ac yn iach! Mae’r prysgwydd yn cael ei deneuo mewn mannau hefyd, i greu strwythur oedran a rhywogaethau amrywiol, sy’n creu mwy o gyfleoedd i fywyd gwyllt arall.
Oeddech chi’n gwybod?
Yr enw lleol ar gaeau gorllewinol Eithinog yw ‘Caeau Briwas’, ar ôl bragdy bach a gafodd ei sefydlu yno yn 1812. Mae’r simnai i’w gweld o hyd fymryn tu draw i ben de-orllewinol y safle.
Cyfarwyddiadau
Mae Eithinog ym Mangor, yn agos at Ysgol Friars ac Ysgol Cae Top. Gadewch yr A55 yng Nghyffordd 9, gan ddilyn yr arwyddion am Ysbyty Gwynedd, a mynd heibio i’r ysbyty ar Ffordd Penrhos am ryw filltir nes cyrraedd cylchfan bychan. Trowch i’r chwith ar Ffordd Belmont (gan ddilyn yr arwydd am Ysgol Friars), ac wedyn cymerwch y trydydd ar y chwith ar Ffordd Eithinog. Mae prif fynedfa’r warchodfa ar y dde, ychydig cyn maes parcio’r ysgol (SH 563 713). Mae ychydig o le parcio ar gael ar ochr y ffordd.
Rhywogaethau
Cynefin
Cysylltwch â ni

Health and wellbeing route
The 'Meadows Health and Wellbeing Route' is a walking route from Ysbyty Gwynedd Hospital to and around Eithinog Nature Reserve.
Download the leaflet to help you plan your visit - with wildlife highlights and our 'Six Ways to Wellbeing'.