Y cyhoedd i adnabod lleoliadau lle mae planhigion wedi dianc o erddi ac ennill arian trwy gêm ffon symudol yng Ngogledd Orllewin Cymru

Y cyhoedd i adnabod lleoliadau lle mae planhigion wedi dianc o erddi ac ennill arian trwy gêm ffon symudol yng Ngogledd Orllewin Cymru

Mae gan bobl leol gyfle i ennill arian os byddant yn dod o hyd i blanhigion sydd wedi 'dianc' gerddi a allai fod yn ymledol - neu blanhigion targed - ac yn eu mapio drwy gêm symudol Crowdsorsa.

Yn fyd-eang ac yma yng Nghymru, mae planhigion addurnol sy'n ymledu o erddi yn un o'r prif ffynonellau o rywogaethau ymledol a all – unwaith maen nhw yn y gwyllt - effeithio ar yr amgylchedd, yr economi, ein hiechyd ni a'r ffordd rydym yn byw. Amcangyfrifir bod rhywogaethau ymledol yn costio bron i £2 biliwn y flwyddyn i economi Prydain Fawr.

Meddai Tomos Jones, Rheolwr Prosiect Dihangwyr Gerddi Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru: “Mae atal rhywogaethau ymledol yn hollbwysig oherwydd ei fod yn arbed arian ac yn osgoi’r effeithiau y gallant eu cael. Mae ein hymchwil ni wedi nodi rhestr fer o blanhigion gardd poblogaidd sydd ddim, hyd y gwyddon ni ar hyn o bryd, yn achosi unrhyw effeithiau yn y gwyllt ond gall hyn newid yn y dyfodol. Rydym isio gwybod pa rai o'r planhigion targed sydd wedi dianc o erddi i lefydd cyfagos, fel ar hyd palmentydd mewn ardaloedd trefol neu mewn gwarchodfeydd natur”.

Bydd y gwaith o fapio'r planghigion targed yng Ngogledd Orllewin Cymru yn dechrau ar ddydd Llun, Gorffennaf 8fed am 9am. Mae'r gêm symudol - neu'r ymgyrch - yn agored i bawb a dim ond lawrlwytho gêm symudol Crowdsorsa (gweler isod) i ffôn clyfar sydd ei angen. Bydd £1 yn cael ei thalu i chwaraewyr am bob sylw newydd am y planhigion sydd wedi’u dewis yn ardaloedd y gêm ger: Bangor a Porthaethwy; Bae Colwyn a Llandudno; a Penrhyndeudraeth a Porthmadog.

Dywedodd Toni Paju, Prif Swyddog Gweithredol Crowdsorsa: "Mae chwaraewyr yn cymryd rhan yn yr ymgyrch drwy gofnodi'r planhigion targed maen nhw’n dod ar eu traws ar fideo. Yn ogystal â'r planhigyn a'r lleoliad, byddwn hefyd yn darganfod maint y broblem, wrth i gyfesurynnau GPS y chwaraewr greu ardal ar y map y gallwn gyfrifo ei hunion faint”.

Dyma ymgais gyntaf Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i ymgysylltu â phobl leol drwy gêm symudol Crowdsorsa. Mae'n cael ei hyrwyddo drwy'r prosiect Dihangwyr Gerddi sy'n cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Mae’r enghreifftiau’n cynnwys amrhydlwyd y cerrig (Erigeron karvinskianus); y bachgen llwm (Leycesteria formosa); a ferfain yr Ariannin (Verbena bonariensis). Ychwanegodd Tomos, Rheolwr Prosiect Dihangwyr Gerddi Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru: “Efallai na fydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y gêm symudol yn dod o hyd i’r rhywogaethau sydd wedi’u dewis, ond mae hynny ynddo’i hun yn ddiddorol i ni wybod, er mwyn gweld ble nad ydyn nhw wedi dianc eto”.

Mae ardaloedd y gêm yn cynnwys gwarchodfeydd natur YNGC. Dywedodd Chris Wynne, Uwch Reolwr Gwarchodfeydd yr Ymddiriedolaeth Natur “Mae ein gwarchodfeydd natur ni ymhlith y llefydd pwysicaf ar gyfer bywyd gwyllt yng Ngogledd Cymru. Mae’r dechnoleg newydd yma’n rhoi cyfle i bobl brofi’r bywyd gwyllt gwych maen nhw’n ei gynnig a chyfrannu at yr ymchwil newydd i ble mae ‘dihangwyr gerddi’ yn dianc iddyn nhw yn y gwyllt”.

Bydd ymdrechion tebyg yn cael sylw yr haf yma drwy Crowdsorsa mewn bron i 40 o fwrdeistrefi ar draws y Ffindir, Sweden a'r Deyrnas Unedig. Yn ogystal â Gogledd Orllewin Cymru, mae'r cysyniad yn cael ei brofi yng Nghaint a Swydd Gaerloyw yn y DU.

Sut i gymryd rhan:

1. Lawrlwythwch gêm symudol Crowdsorsa am ddim i'ch ffôn a chreu cyfrif defnyddiwr. 

2. Agorwch ymgyrch fapio’r Dihangwyr Gerddi a darllen y cyfarwyddiadau yn ofalus. 

3. Pan fydd yr ymgyrch yn dechrau ar Orffennaf 8fed am 9am, ewch allan i recordio ar fideo y planhigion sydd wedi’u dewis rydych chi’n eu gweld.

4. Uwchlwythwch y fideos i Crowdsorsa eu hadolygu. 

5. Unwaith y bydd y fideos wedi'u cymeradwyo, gallwch ofyn am daliad i'ch cyfrif banc. 

Os oes arnoch chi angen cymorth neu ragor o wybodaeth am yr ymgyrch, gallwch gysylltu â Crowdsorsa drwy'r ap.

Beth ydi Crowdsorsa?

Mae Crowdsorsa yn gwmni o'r Ffindir y mae ei gysyniad wedi cael ei fabwysiadu mewn pedair gwlad.

Mae gêm symudol Crowdsorsa wedi cael ei chynllunio ar gyfer casglu data torfol a microdasgau i ddinasyddion.

Mae wedi cael ei defnyddio ar gyfer mapio ffyrdd, llwybrau beiciau, gorchuddion tyllau ffyrdd, meinciau parciau, a rhywogaethau ymledol ar y cyflymder mwyaf erioed.

Gwybodaeth gyswllt:

Tomos Jones
Rheolwr Prosiect Dianc o Erddi
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Ffôn: 07726358228
E-bost: Tomos.Jones@northwaleswildlifetrust.org.uk

Toni Paju
CEO, Crowdsorsa
Ffôn: +358 50 322 6263
E-bost: toni.paju@crowdsorsa.com