Gwarchodfa Natur Nantporth
Lleoliad
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Gwanwyn / Yr Haf ar gyfer adar a blodauAm dan y warchodfa
Coetir, cerdded ac adar rhydio
Dilynwch Lwybr Arfordir Cymru o dan ganopi agored y coetir ynn arfordirol yma, sydd hefyd yn cynnwys cerddin gwyn prin a derw, bedw ac aethnenni. Yn y gwanwyn, mae golau brith yr haul yn goleuo gwyn a melyn blodau’r gwynt a’r briallu ar lawr y coetir, blodau sy’n brysio i flodeuo cyn i’r coed ddeffro’n llawn a’u taflu i’r cysgod. Mae canopi amrywiol y safle’n creu cynefin perffaith ar gyfer casgliad o adar y coetir; gwrandewch am alaw hyfryd y telor penddu a chri fain telor y cnau a’i blu llwyd ac oren hardd. Mae’r synau yma’n nodweddiadol o’r coetir ac, am yn ail, fe glywch chi gri ‘clip’ dreiddgar pïod y môr wrth iddynt fynd heibio, a chri ailadroddus y pibydd coesgoch, wrth iddo deithio ar hyd glannau Afon Menai. Adfywiad naturiol y coetir yw’r nod yma. Ychydig iawn o waith tocio mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn ei wneud i wneud y coetir mor amrywiol â phosib, gan adael pren marw i fod o fudd i infertebrata.
Oeddech chi’n gwybod?
Roedd Nantporth yn chwarel galchfaen ar un adeg. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn pantiau’r hen domenni gwastraff ac mae’r hen weithfeydd i’w gweld o hyd os edrychwch chi’n ofalus yng nghanol y rhedyn a’r mwsoglau.
Cyfarwyddiadau
Trowch oddi ar yr A5 ar gyrion Bangor Uchaf ar Ffordd Siliwen, cyn dilyn Lôn Efelyn neu Ffordd Gorad ar y chwith. Parciwch ar Ffordd Hwfa neu yn y cyffiniau (SH 575 724) a dilyn Ffordd Gorad ar droed i gyfeiriad Afon Menai. Mae Llwybr Arfordir Cymru’n eich arwain chi i’r warchodfa ei hun (SH 573 725