siarad gyda gwleidyddion am fyd natur a’r hinsawdd

Image of silver-studded blue butterfly

Chris Gomersall 2020Vision 

Siarad gyda gwleidyddion am fyd natur a’r hinsawdd

Roedd mwy na hanner yr holl Aelodau Seneddol (ASau) a etholwyd yn Etholiad Cyffredinol 2024 yn newydd i’r rôl. Mae hyn yn golygu bod llawer o bobl newydd, sydd heb gael llawer o brofiad eto o'r materion hinsawdd a natur sy'n bwysig i chi, yn mynd i fod yn gwneud penderfyniadau. Mae hynny'n golygu mai nawr yw'r amser perffaith i gwrdd â nhw wyneb yn wyneb i sefydlu'r berthynas honno.

Rydyn ni wedi rhoi rhywfaint o adnoddau at ei gilydd i'ch helpu chi i siarad â'ch cynrychiolwyr am fyd natur a’r hinsawdd. O sut i gysylltu â'ch AS i feithrin hyder ar gyfer cyfarfod, fe welwch chi lawer o enghreifftiau, awgrymiadau, arweiniad a chefnogaeth yma. 

Person holding a smart phone

Image by Pexels from Pixabay

Cam 1 - Cysylltu

Llywodraeth y DU

Cysylltu â'ch AS yw un o'r camau cyntaf i ddod i adnabod y bobl leol sy’n gwneud penderfyniadau. Mae sawl ffordd y gallwch chi gysylltu:

Dod o hyd i’ch AS 

Alyn a Glannau: Mark Tami - Llafur

Bangor Aberconwy: Claire Hughes - Llafur

Dwyrain Clwyd: Becky Gittins - Llafur

Gogledd Clwyd: Gill German - Llafur

Dwyfor Meirionnydd: Liz Saville Roberts - Plaid Cymru

Wrecsam: Andrew Ranger - Llafur

Ynys Mon: Llinos Medi - Plaid Cymru

Yn ddelfrydol, bydd pob AS yn cynnal ‘cymhorthfa byd natur’ yn ystod eu 100 diwrnod cyntaf yn eu rôl newydd, ac mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn annog ASau i wneud hyn. Mae 'cymhorthfa byd natur' yn golygu neilltuo rhywfaint o amser yn eu hetholaeth i gwrdd â phobl leol i drafod materion a chyfleoedd bywyd gwyllt a hinsawdd yn benodol. Anogwch eich AS i ystyried cynnal cymhorthfa byd natur a chynnwys y cwestiwn yma yn eich e-byst a'ch llythyrau eich hun! 

Fe all yr Ymddiriedolaethau Natur helpu i sefydlu neu gynnal y cymorthfeydd hyn yn lleol os hoffai ASau gael rhywfaint o gymorth. 

Llywodraeth Cymru

Yma yng Nghymru y Senedd sy’n penderfynu ar ystod eang o faterion amgylcheddol a chadwraeth natur felly gallwch hefyd gysylltu â’ch Aelod o’r Senedd (AS):

Cysylltu â’ch AS 

Mark Hamblin speaking to Assynt Field Club, Lochinver, Inverpolly, Scotland.

Peter Cairns/2020VISION

Cam 2 – Hyder

Boed yn Aelod Seneddol yn San Steffan neu yn y Senedd yng Nghymru, neu’n Gynghorydd neu rywun arall mewn rôl bwysig wahanol, mae hyder yn allweddol er mwyn cael sgwrs wych.            

Mae Hwb Natur Drws Nesaf yn adnodd defnyddiol i wneud i chi deimlo’n hyderus wrth siarad gyda’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau:

Hwb Natur Drws Nesaf

A bird puppet at Restore Nature Now march

Restore Nature Now rally © Guy Shorrock

Cam 3 – Eich neges

Wrth gysylltu ag ASau, mae'n hawdd canolbwyntio ar faterion ond peidiwch ag anghofio siarad am gyfleoedd, ac atebion, hefyd! Mae’n ddefnyddiol cael enghraifft go iawn o broblem yn eich ardal leol, a’r hyn rydych chi’n teimlo y gallai’r ateb fod. 

Fe gynhaliodd yr Ymddiriedolaethau Natur weithdy ar-lein yn 2023 ynghylch sut i adnabod y tir cyffredin sydd rhwng yr hyn sy’n bwysig i chi a’r hyn y mae eich AS yn poeni amdano. Efallai y bydd yr ymarfer yn y gweithdy yma o help i chi - edrychwch arno! Mae’r gweithdy yng nghyd-destun ffermio, ond mae’r dull o gysylltu â’ch AS yn debyg ar draws pob thema:

Gwylio’r Gweithdy

Mae Frances Cattanach, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yn rhannu ychydig eiriau o anogaeth: 

"Yn syfrdanol, mae 1 o bob 6 rhywogaeth ym Mhrydain mewn perygl o ddifodiant ac mae'r DU bellach yn un o'r gwledydd sydd wedi colli’r mwyaf o’i byd natur ar y blaned. Drwy gydol yr ymgyrch etholiadol, daeth yn amlwg bod pobl yn gwybod bod ein byd naturiol ni mewn argyfwng ac eisiau i wleidyddion wneud ymrwymiadau beiddgar ac uchelgeisiol i wyrdroi'r dirywiad. Fe ddangosodd pobl hyn gyda'u traed – fe orymdeithiodd mwy na 60,000 o bobl drwy Lundain ar ddiwedd yr ymgyrch yn annog gweithredu cyflymach i 'adfer byd natur nawr'. 

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn edrych ymlaen at weithio’n agos gydag ASau i adfer byd natur a mynediad pobl iddo ar draws Gogledd Cymru ac at weithio mewn partneriaeth gyda’r llywodraeth newydd i gyflawni’r mandad clir sydd ganddi i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd. 

Yn benodol, byddai’r Ymddiriedolaeth Natur yn falch iawn o weithio gydag ASau i fwrw ymlaen â chamau yn y Senedd i adfer byd natur yn y pum maes a ganlyn: 

  1. 1. Cyflawni’r ymrwymiadau y methodd y llywodraeth ddiwethaf â’u cyflawni, gan gynnwys gwahardd gwerthu mawn sy’n storio carbon a thrwyddedu ailgyflwyno afancod.
  2. Cefnogi addewid Llafur i adolygu’r ‘Cynllun Gwella’r Amgylchedd’ fel ei fod yn gallu cyflawni ein targed cyfreithiol rwymol i atal dirywiad byd natur erbyn diwedd y degawd a chyflawni ein hymrwymiadau rhyngwladol.
  3. Sicrhau bod y system gynllunio yn mynd i’r afael â’r argyfyngau tai, natur a hinsawdd gyda’i gilydd, gan gael Prydain i adeiladu cymunedau cyfoethog o ran byd natur ledled y wlad.
  4. Atal llygredd mewn afonydd o gwmnïau dŵr a ffynonellau amaethyddol a chydnabod gwerth byd natur wrth adfer ein hafonydd.
  5. Cefnogi ffermio sy’n gyfeillgar i fyd natur drwy gael y trawsnewid amaethyddol yn ôl ar y trywydd iawn a sicrhau diogelwch bwyd hirdymor yn y DU.” 

Anabledd a Gwleidyddiaeth

Rydyn ni’n gwybod nad yw cysylltu â gwleidyddion bob amser mor hygyrch ag y dylai fod. Mae’n bwysig bod pawb yn cael y cyfle i gysylltu â’u swyddogion etholedig, felly rydyn ni wedi ceisio darparu’r arweiniad symlaf posibl. Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod y gall y rhwystrau hyn fod yn wahanol i bawb. Gallwch gael gwybod mwy am hyn o ymchwil Sense yn y ddolen isod. 

Os na allwch chi gysylltu â'ch AS yn gorfforol, fe allech chi ofyn i aelod o'r teulu, ffrind neu eich gofalwr gysylltu ag ef neu hi ar eich rhan. Os na allwch chi ymweld â'ch AS, gallwch gysylltu ag ef neu hi ar e-bost neu ofyn am sgwrs dros y ffôn yn lle hynny.

Ymweld â Sense