
Skylark © David Tipling/2020VISION
Cân yr adar a brecwast
Lleoliad: Gwarchodfa Natur Nantporth,
Bangor, Gwynedd, LL57 2BN (northern entrance)
Gwarchodfa Natur Nantporth,
Bangor, Gwynedd, LL57 2BN (northern entrance)Mwynhewch daith gerdded yn y gwanwyn drwy goetir arfordirol hyfryd, ac wedyn brecwast!
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Mwynhewch olygfeydd a synau byd natur yn ein Gwarchodfa Natur ni yn Nantporth. Yn y gwanwyn, mae golau brith yr haul yn goleuo gwyn a melyn y blodau’r gwynt a’r briallu ar lawr y coetir, ac mae canopi amrywiol y safle’n creu’r cynefin perffaith ar gyfer amrywiaeth o adar y coetir gan gynnwys cân felodaidd y telor penddu, galw main uchel y telor y cnau hardd, a chri siarp piod y môr ar hyd y Fenai.
Bydd y brecwast yn cynnwys rôl ŵy, cig moch a / neu selsig traddodiadol. Bydd madarch, selsig llysieuol, menyn heb laeth a ffa ar gael i lysieuwyr a feganiaid. Er mwyn ein helpu ni i leihau gwastraff bwyd, mae croeso i chi gysylltu â threfnydd y digwyddiad ymlaen llaw os byddwch yn mynychu.