Rheolwr Cyfrannu Unigol
Byddwch yn dod o gefndir yn ymwneud â chreu a rheoli cynhyrchion, prosiectau a / neu apeliadau codi arian, yn fwyaf tebygol o fewn y sector elusennol. Byddwch yn gweithredu gyda ffocws ar ganlyniadau, gyda phrofiad o reoli timau codi arian amlddisgyblaethol. Byddem yn disgwyl dealltwriaeth o baratoi achosion ar lefel sefydliad a phrosiect ar gyfer cefnogaeth, a’ch bod yn gyfforddus gyda chyflawni targedau ariannol ac anariannol – a chefnogi aelodau’r tîm i wneud yr un peth. Byddwch yn gyfathrebwr gwych gydag agwedd ddymunol, sy’n gallu gweithio gyda llawer o wahanol bobl ar draws yr amrywiaeth hyfryd o ddaearyddiaeth, datblygiad busnes a gweithgareddau'r Ymddiriedolaeth Natur. Byddwch yn mwynhau mynd ati i herio’r status quo i ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau, chwilio am arfer da a datrys problemau wrth iddynt godi. Mae hon yn rôl newydd a fydd yn esblygu yn dilyn eich penodiad felly dylech fod yn gyffrous am yr hyblygrwydd a'r cyfleoedd i weithredu’n arloesol. Rydym yn gwerthfawrogi angerdd, parch, ymddiriedaeth, integriti, ymgyrchu pragmatig a chryfder mewn amrywiaeth. Er ein bod yn frwd dros hyrwyddo ein hamcanion, nid ydym yn feirniadol ac rydym yn gynhwysol. Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan bobl sy’n cael eu tangynrychioli yn ein sector ni, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifol a phobl ag anableddau. Rydym wedi ymrwymo i greu mudiad sy'n cydnabod ac wir yn gwerthfawrogi gwahaniaethau a hunaniaethau unigol. Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau Diogelu o ddifrif. Cliciwch yma i ddarllen ein datganiad ymrwymiad Efallai y bydd yn ofynnol cael archwiliad DBS ar gyfer y rôl hon. Sut i wneud cais |