Rydyn ni'n gwarchod gwenoliaid duon ac fe allwch chi helpu!
Mae gwenoliaid duon yn greaduriaid ysbrydoledig ac rydyn ni’n ceisio defnyddio’r rhyfeddod maen nhw’n ei gynhyrchu i gysylltu pobl â’r heriau maen nhw’n eu hwynebu, gan gynnwys dirywiad mewn pryfed a newid hinsawdd. Mae gwenoliaid duon wedi gostwng 72% yng Nghymru ers 1995, ac mae eu cynnwys ar y Rhestr Goch yn 2021 wedi tynnu sylw at fygythiad gwirioneddol eu diflaniad. Ond dydyn nhw ddim wedi mynd eto, a chan eu bod nhw’n dibynnu arnom ni am y rhan o'u bywydau pan nad ydyn nhw yn yr awyr, rydyn ni’n teimlo eu bod yn rhywogaeth y dylen ni allu ei helpu - drwy warchod safleoedd nythu presennol, darparu bocsys neu frics nythu - ac ymgyrchu dros weithredu ar golli pryfed.
Pam rydyn ni eisiau gwarchod gwenoliaid duon?
Mae’r straeon am fywydau gwenoliaid duon yn yr awyr, yn teithio’r byd, yn syfrdanol, ac mae eu presenoldeb yn yr haf yn dod â mannau trefol yn fyw, gan gysylltu pobl â’r awyr. Rydyn ni’n credu y byddai gwenoliaid duon yn diflannu oddi ar ein strydoedd ni’n golled drasig, ac y gall cael pobl i ymwneud â’u gwarchod yn lleol fod o fudd gwirioneddol – i unigolion a chymunedau – yn ogystal â gwenoliaid duon! Oherwydd eu bod nhw’n nythu mewn adeiladau, gallwn geisio eu helpu yn ein pentrefi a’n trefi ein hunain. Gall gwybodaeth leol a gweithredu lleol wneud gwahaniaeth.
Beth rydyn ni'n ei wneud?
Mae YNGC wedi bod yn gweithio i helpu gwenoliaid duon ers 2014. Gwelwyd dirywiad cyffredinol mewn gwenoliaid duon yng Ngogledd Cymru fel mewn mannau eraill, ond roedd gwybodaeth fanwl gywir yn brin, felly fe wnaethom sefydlu tudalen Adfer Gwenoliaid Duon ar Cofnod, ein canolfan gofnodion leol. Mae hwn bellach yn cynnwys mwy na 2,300 o gofnodion, gan gynnwys manylion hollbwysig am nythod gwenoliaid duon sy’n hanfodol i’w gwarchod, ac ar gyfer targedu darpariaeth o focsys nythu i wenoliaid duon. Ers 2014 rydyn ni wedi gosod mwy na 900 o focsys ar adeiladau cyhoeddus a phreifat, gan feithrin arbenigedd wrth weithio gydag adeiladwyr, penseiri, awdurdodau lleol a pherchnogion tai, a hyrwyddo cynnwys brics gwenoliaid duon mewn datblygiadau newydd.
Yn 2023 a 2024, cawsom grant gan Ymddiriedolaeth Elusennol Swire i gyllido ein prosiect Gweithredu dros Wenoliaid Duon. Yn ystod 2024/5, mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, byddwn yn gosod 100 o focsys nythu ar adeiladau addas ar draws y sir, ac yn cynnal digwyddiadau hyfforddi ar gyfer gwirfoddolwyr yn yr ardal. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru drwy ei rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Ymuno â’n grŵp ni ar Facebook!
Deddfu ar gyfer gwenoliaid duon
Rydym yn galw am ddeddfwriaeth i sicrhau bod brics gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru. Mae gwenoliaid duon yn nythu mewn tyllau mewn adeiladau. Mae gwaith adnewyddu’n amddifadu’r adar o’u cartrefi, a does dim ceudodau i’w cael mewn adeiladau newydd ar hyn o bryd. Heb fwy o opsiynau ar gyfer nythu, bydd gwenoliaid duon yn diflannu. Byddai cynnwys brics gwenoliaid duon ym mhob datblygiad newydd yn helpu gydag adferiad gwenoliaid duon (ac adar eraill sydd mewn trafferthion, fel gwenoliaid y bondo ac adar y to).
Diolch i ymgyrch gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Ymddiriedolaethau Natur Cymru, RSPB Cymru ac ymgyrchwyr dros wenoliaid duon ledled Cymru, llofnododd 10,930 o bobl ddeiseb ar-lein yn galw am y newid hwn i’r gyfraith yn 2024, sy’n golygu y bydd yn cael ei hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd (Senedd Cymru) yn 2025.
Sut gallwch chi helpu
Gweithredwch dros wenoliaid duon yn eich cymuned eich hun, a helpwch yr adar rhyfeddol yma i ffynnu ochr yn ochr â chi.
Anfon eich cofnodion am wenoliaid duon atom ni
Rydyn ni wedi creu tudalen we arbennig i gofnodi gwenoliaid duon ar Cofnod – defnyddiwch hi i ddweud wrthym ni ble rydych chi wedi eu gweld. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer cadwraeth!
Arolygu eich gwenoliaid duon lleol
Rydyn ni eisiau darganfod sut mae gwenoliaid duon yn ffynnu yn eich pentref neu dref, a gallwn eich hyfforddi i helpu. Rhyw awr yn arsylwi gwenoliaid duon ar nosweithiau braf o wanwyn neu haf – beth allai fod yn well? Dyma ein canllaw ni i chi gynnal eich arolwg hunan-dywys eich hun o wenoliaid duon.
Sylwi ar sgaffaldiau!
Fe all safleoedd nythu gwenoliaid duon gael eu colli os caiff eu tyllau eu blocio fel rhan o waith adeiladu, e.e. ailbwyntio waliau neu atgyweirio to. Os clywch chi am waith wedi’i gynllunio lle rydych chi’n meddwl bod gwenoliaid duon yn nythu – neu os gwelwch chi sgaffaldiau’n mynd i fyny yno, cysylltwch ag YNGC – efallai y gallwn ni helpu. Os bydd gwaith yn digwydd rhwng mis Mai a mis Awst, mae’n bwysig bod pobl yn gwybod ei bod yn anghyfreithlon tarfu ar adar yn eu nyth. Weithiau nid yw pobl yn ymwybodol bod gwenoliaid duon yn nythu yn eu tŷ – rydyn ni’n eu hannog i werthfawrogi gwenoliaid duon a gwarchod eu nythod.
Gall sgaffaldiau fod yn gyfle i osod bocsys gwenoliaid duon yn eu lle - edrychwch isod!
Creu cartref i wenoliaid duon
Ystyriwch osod bocsys gwenoliaid duon yn eu lle, neu greu mannau lle gallant nythu yn eich cartref, ysgol neu weithle – pryd bynnag y bydd sgaffaldiau wedi’u codi, mae cyfle! Defnyddiwch recordiadau o gri’r wennol ddu i ddenu parau. Gall Swift Conservation gynnig cyngor.
Bocsys yn rhan o adeilad
Yr ateb hirdymor gorau i argyfwng tai y gwenoliaid duon ydi ymgorffori bocsys nythu mewnol neu ‘frics gwenoliaid duon’ mewn datblygiadau adeiladu newydd. Maen nhw’n gynaliadwy, yn hawdd eu cynnal a’u cadw, yn hawdd eu gosod yn ystod y gwaith adeiladu, ac mae cyfradd y defnydd yn uchel. Helpwch ni i'w hyrwyddo nhw i gynllunwyr, datblygwyr ac adeiladwyr yn eich ardal leol.
Dilyn y teulu...
Yn 2023 fe wnaethon ni osod camera nyth yn un o’r bocsys a osodwyd gennym ar adeilad Craig Mair Prifysgol Bangor ym Mhorthaethwy. Mae hyn yn ein galluogi ni i dracio ffawd pâr o wenoliaid duon drwy gydol y tymor. Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gamau gweithredu drwy ein dilyn ni ar Facebook, lle rydyn ni’n rhannu fideos drwy gydol y tymor magu.