Dod yn aelod yw un o'r ffyrdd gorau i chi helpu i warchod bywyd gwyllt ar draws Gogledd Cymru
Mae gennym ni 35 o warchodfeydd natur gwych y gallwch chi ymweld â nhw, mae aelodau’n cael mynediad cynnar i fwy na 140 o ddigwyddiadau y flwyddyn ac maen nhw’n derbyn cylchgrawn Gogledd Cymru Wyllt sy'n cael ei ddosbarthu i’w cartref deirgwaith y flwyddyn, a'r cyfan wrth gael y teimlad cynnes braf hwnnw o wybod eich bod chi’n cyfrannu’n uniongyrchol at ddiogelu bywyd gwyllt bregus ar draws Gogledd Cymru.

© NWWT
Mae cefnogwyr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru hefyd yn derbyn...
Disgownt o 15% yn Cotswold Outdoors
Disgownt o 10% ar fynediad i Sŵ Môr Môn
Disgownt o 10% ar fynediad i Barc Teuluol Gelli Gyffwrdd
Disgownt wrth archebu y Guddfan Gwalch y pysgod yn Brenig
© NWWT
Mae'r aelodau'n derbyn
- Canllaw lliw llawn, 96 tudalen, i warchodfeydd natur lleol
- Tri rhifyn o gylchgrawn Gogledd Cymru Gwyllt y flwyddyn
- Mynediad cynnar i fwy na 140 o ddigwyddiadau
- Gwahoddiad i'n Cyfarfod Blynyddol i Aelodau
- Cerdyn aelodaeth y mae posib ei lawrlwytho sy'n caniatáu mynediad i warchodfeydd yr Ymddiriedolaeth Natur ledled y DU

Gwyllt Pack © NWWT
Aelodaeth i Deuluoedd
- Mae aelodau teulu’n derbyn yr un buddion ag aelodau ond yn ogystal byddwch yn derbyn pecyn dechrau gwych “Gwylio Bywyd Gwyllt” i blant, yn cynnwys:
- Llawlyfr, yn orlawn o bethau i'w gwneud yn eich gardd eich hun neu fannau gwyllt lleol
- Posteri bywyd gwyllt anhygoel
- Cylchgrawn llawn gweithgareddau, cwisiau a ffeithiau hynod ddiddorol yn cael ei anfon bedair gwaith y flwyddyn at y plant.
- Sticeri bywyd gwyllt a bathodyn i ddangos eich bod wedi ymuno â'r clwb!
- Gallwch ddewis derbyn y cylchgrawn yn y Gymraeg neu yn Saesneg
- Yn cael eu postio i gyd yn uniongyrchol at eich plant

(c) Kira auf der Heide
Prynwch aelodaeth i rywun arall fel anrheg
Helpwch rywun arall i gysylltu â bywyd gwyllt eleni...
Dyma be sydd gan Iolo Williams Is-lywydd yr Ymddiriedolaethau Natur ddweud am ymuno â Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Nid oedd gen i syniad fod gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru cyn gymaint o warchodfeydd natur, rwyf wedi mwynhau ymweld â nhw ac maen wych i wybod bod fy aelodaeth yn helpu i’w amddiffyn hwy.