Ble mae gweld dolydd o flodau gwyllt
Boed yn felyn llachar blodau menyn y ddôl neu’n bigau tegeirianau porffor y gwanwyn a thegeirianau’r waun – mae dolydd gwyllt Gogledd Cymru'n gyforiog o fywyd a lliw, o flodyn cyntaf y gwanwyn i borffor y bengaled ddu olaf un. Gyda dim ond 15,000 o hectarau o laswelltir niwtral sydd â chyfoeth o rywogaethau’n weddill yn y DU, mae’r darnau bywiog a lliwgar yma’n berlau gwirioneddol o ran bywyd gwyllt.
Mae cerdded drwy ddôl o flodau gwyllt yn llesol i’r synhwyrau ac yn brofiad y mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio’n galed i’w ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Chwilio am ddôl o flodau gwyllt
Gwnewch ychydig o ymchwil ymlaen llaw i weld ble mae’r ddôl o flodau gwyllt agosaf atoch chi. Dyma rai o’r goreuon: Cors Goch ar Ynys Môn, Caeau Tan y Bwlch, i’r de o Gaernarfon a Maes Hiraddug ger Dyserth.
Am beth ddylech chi chwilio
Yr haf yw’r amser gorau ar gyfer dolydd o flodau gwyllt, pan mae llethrau cyfan yn dân o liw a phryfed yn suo. Er mai blodau yw sêr y sioe efallai, cofiwch hefyd am y pryfed; glöynnod byw, fel boneddiges y wig, gwyfyn bwrned sy’n hedfan yn ystod y dydd, cacwn â’u llwyth trwm o baill. Os oes dŵr gerllaw, mae’n bosib y bydd gweision y neidr a mursennod yn gwibio drwy’r ddôl hefyd. Mae dolydd hŷn wedi’u cau i mewn weithiau, gyda gwrychoedd sy’n cynnwys coed a llwyni, gan gynnwys masarn bach, cyll, drain gwynion a phisgwydd, sy’n gartref i fwy fyth o fywyd gwyllt.
Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd y llefydd hyn
Os nad ydych chi’n ddigon ffodus i fod yn byw’n ddigon agos at un o’r dolydd arbennig yma, mae posib dod o hyd i flodau gwyllt ym mhob man. Ar hyd ymylon caeau neu mewn corneli sy’n cael llonydd, bydd botwm crys, blodau taranau a phys y ceirw’n gallu ychwanegu lliw sydyn; mae rhai rhywogaethau o degeirianau, fel tegeirian porffor y gwanwyn a’r tegeirian brych cyffredin, i’w gweld ar hyd ymylon ffyrdd. I’r rhai sydd wir eisiau mwynhau gwledd o liw yr haf, beth am fynd ati i blannu eich dôl eich hun o flodau gwyllt - sydd hefyd o fudd i fywyd gwyllt?
Mwy o brofiadau bywyd gwyllt
O weld blodau gwyllt lliwgar i ganfod adar ysglyfaethus rhyfeddol, fe allwn ni eich helpu chi i fod yn nes at fywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru.