![Badger](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/2017-12/Badger%20-%20Credit%20Mark%20Davison.jpg?h=9a60bbcf&itok=EjLc7Ih8)
©Mark Davison
![Badger scratching](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/2017-12/009202%20%28c%29%20Elliott%20Neep.jpg?h=48c62fad&itok=EOtUpxII)
©Elliot Neep
Mochyn daear Ewropeaidd
Enw gwyddonol: Meles meles
Y mochyn daear yw’r ysglyfaethwr tir mwyaf yn y DU ac mae’n un o rywogaethau enwocaf Prydain. Mae’n enwog am ei streipiau du a gwyn a’i gorff cryf, ac mae’n defnyddio ei bawennau blaen cryf i gloddio am fwyd ac i berffeithio ei dyllau, o’r enw ‘daear’.
Species information
Ystadegau
Hyd: 75-100 cmCynffon: 15 cm
Pwysau: 8-12 kg
Yn byw ar gyfartaledd am: 5-8 mlynedd
Statws cadwraethol
Mae’n cael ei warchod yn y DU o dan Ddeddf Moch Daear, 1992, a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981.
Pryd i'w gweld
Ionawr i RhagfyrYnghylch
Mae’r mochyn daear a’i streipiau du a gwyn yn rhywogaeth enwog yn y DU. Dyma ein ysglyfaethwr tir mwyaf ac mae’n bwydo ar famaliaid bach, wyau adar, pryfed genwair, ffrwythau a phlanhigion. Mae moch daear yn byw mewn grwpiau teuluol mawr mewn tyllau o dan y ddaear o’r enw ‘daear’. Byddwch yn gwybod os oes moch daear yn byw mewn daear oherwydd mae fel rheol yn dalcus iawn gyda drysau glân wedi’u marcio gyda phentyrrau o wely (gwair a dail) wedi’i ddefnyddio. Hefyd bydd tomen ddrewllyd iawn yn ymyl, sy’n cael ei defnyddio gan y moch daear fel toiled! Mae gan y mochyn daear bawennau blaen cryf ac mae’n eu defnyddio i gloddio am fwyd. Mae’r cenawon yn cael eu geni ym misoedd Ionawr neu Chwefror ond yn treulio’r misoedd cyntaf o dan y ddaear, cyn dod allan yn y gwanwyn pan mae’n gynhesach.Sut i'w hadnabod
Anifail unigryw, mae’r mochyn daear yn fawr a llwyd, gyda chynffon fer, fflwfflyd, bol a phawennau duon, a wyneb streipiog du a gwyn.Dosbarthiad
I’w weld ledled Cymru, Lloegr a’r Alban (ac eithrio’r gogledd pellaf) a Gogledd Iwerddon. Absennol o ynysoedd yr Alban, Ynys Manaw, Ynysoedd Sili ac Ynysoedd y Sianel.Roeddech chi yn gwybod?
Mae moch daear yn gallu bwyta cannoedd o bryfed genwair bob nos! Hefyd dyma un o’r unig ysglyfaethwyr ar ddraenogod – mae eu croen trwchus a’u hewinedd hir yn eu helpu i fynd heibio’r pigau cas. Os oes prinder bwyd, bydd moch daear yn chwilio am fwyd yn ystod y dydd yn ogystal â’r nos. Os oes moch daear yn eich ardal chi, gallwch eu denu i’ch gardd drwy adael pysgnau allan iddyn nhw – byrbryd blasus i’n ffrindiau streipiog.Gwyliwch
Russell Savory