Mae ymchwilwyr, cadwraethwyr a llunwyr polisïau, fel ei gilydd, yn cydnabod, er mwyn creu rhwydwaith ecolegol cydlynol a gwydn, bod angen mwy o le ar gyfer byd natur, gofod mwy, gwell ac unedig.
Ar hyn o bryd, mae 20.6% o dir Gogledd Cymru wedi’i ddynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac mae 69% o foroedd Cymru yn Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Mae dynodiadau’n hanfodol i warchod ein bywyd gwyllt mwyaf bregus ni ond rhaid eu rheoli’n weithredol er mwyn cyflawni statws cadwraeth ffafriol.
Ein nod ni yw i o leiaf 30% o dir Cymru gael ei ddiogelu, ei gysylltu a’i reoli’n gadarnhaol ar gyfer byd natur. Ein nod ni ar gyfer adferiad ein moroedd yw ceisio dull sy’n seiliedig ar ecosystemau o weithredu i feithrin gwydnwch yn erbyn pwysau cynyddol. Dim ond Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy’n adfer fydd yn rhan o’r targed o 30%.
Byddwn yn gosod byd natur yn gadarn mewn adferiad drwy wneud mwy o le i natur a diogelu a chysylltu cynefinoedd ar raddfa tirwedd, adfer helaethrwydd byd natur, a gwella iechyd ecosystemau (drwy, er enghraifft, sicrhau bod ein gwlybdiroedd yn wlyb ac ailgyflwyno rhywogaethau allweddol sydd ar goll).