
Chris Gomersall/2020VISION
Adnabod cân yr adar
Pa adar ydych chi wedi bod yn eu clywed?
I’n ffrindiau pluog ni mae’r diolch am draciau sain hardd ein parciau a'n gerddi ni. Dysgwch sut i ddweud y gwahaniaeth rhwng rhai o’r caneuon adar mwyaf cyffredin ac unigryw yn y DU gyda'n canllaw hawdd ni. Mae adar yn defnyddio eu cân yn ystod y tymor paru i ddenu cymar yn ogystal â'i defnyddio fel arf i amddiffyn eu tiriogaethau. Gwrandewch ar rai o'r caneuon mwyaf cyfarwydd isod.
Mwyalchen
Codwr cynnar, gyda llais clir a hyderus. Mae'r gân hardd yn isel ei thraw ac yn cael ei chyflwyno mewn penillion byr, ffliwtaidd sy'n ymddangos fel pe baen nhw’n stopio’n sydyn. Yn wahanol i'r fronfraith, nid yw'r fwyalchen yn ailadrodd ei phenillion. Gwrandewch...
Brych y coed
Mae brych y coed yn dechrau canu yn y gaeaf, o ben coeden uchel yn aml. Mae'r gân yn debyg i gân y fwyalchen, ond yn hytrach na diweddu'n sydyn mae brych y coed yn rhyw dawelu’n araf bach, heb feddwl bron. Gwrandewch...
Bronfraith
Y llais mwyaf hyderus yng nghorws y wawr yn aml, ac un o’r rhai cynharaf i ddechrau canu. Gwrandewch am benillion clir, uchel sy'n cael eu hailadrodd 2 i 4 gwaith. Gwrandewch...
Robin goch
Fel y brychod mwy, mae’r robin goch yn dechrau canu yn gynnar yn y bore. Mae'r gân yn glir ac yn hardd, yn cynnwys nodau a chwibanau crychdonnog. Y robin yw un o'r ychydig adar sy'n canu drwy'r gaeaf. Gwrandewch...
Llwyd y gwrych
Mae llwyd y gwrych yn aderyn sydd ddim yn cael llawer o sylw, ond mae ganddo gân hyfryd. Mae'n alaw swynol gyda thraw uchel, yn troi a throsi ac yn cael ei chyflwyno mewn penillion byr. Mae llwyd y gwrych yn hoffi canu o byst neu glwydi amlwg eraill. Gwrandewch...
Telor penddu
Gan y telor mudol yma mae un o leisiau gorau corws y wawr. Mae ei gân yn dechrau fel telori neu glebran, cyn ffrwydro’n nodau uwch, cliriach tebyg i ffliwt. Gwrandewch...
Telor yr ardd
Mae'n haws clywed y telor swil yma na’i weld. Mae ei gân yn debyg iawn i gân y telor penddu, ond mae'n tueddu i ganu mewn penillion hirach. Mae ei delori a’i glebran yn llifo i fyny ac i lawr fel nant fyrlymus, heb gyrraedd diweddglo clir, tebyg i ffliwt, y telor penddu. Gwrandewch...
Siff-siaff
Un o'r lleisiau hawsaf ei adnabod yng nghorws y wawr. Mae cân y siff-siaff yn "chiff chaff, chiff chaff, chiff chaff" ailadroddus, gyda nodyn ychwanegol wedi'i gymysgu i mewn weithiau. Gwrandewch…
Telor yr helyg
Mae'r telor yma’n edrych yn debyg iawn i'r siff-siaff, ond mae'n hawdd dweud y gwahaniaeth rhwng y ddau o wrando ar eu llais. Mae ganddo gân hardd, fel graddfa o nodau’n dod ar i lawr. Gwrandewch...
Titw tomos las
Mae’r titw tomos las yn olygfa gyffredin mewn parciau a gerddi, felly mae’r gân ddisglair, frwd yn debygol o gael ei chlywed yn aml. Mae'n gyfres o nodiadau clir ac wedyn trydar. Gwrandewch...
Titw mawr
Mae’r titw mawr yn swnio fel ei fod yn siglo rhwng dau nodyn. Weithiau un nodyn, weithiau tri, weithiau’n gryg, weithiau ddim. Gwrandewch...
Titw penddu
Mae cân y titw penddu’n debyg i gân y titw mawr, ond yn deneuach ac yn llai hyderus. Mae’n swnio fel ei fod yn dweud rhywbeth fel, ‘Itsy witsy teeny weeny.’ Bydd yn canu o goeden gonwydd yn aml, neu o glystyrau trwchus o eiddew. Gwrandewch...
Ji-binc
Mae cân y ji-binc yn gyfres o nodau'n cwympo ac wedyn rhyw gynnwrf ar y diwedd. Gwrandewch...
Llinos werdd
Mae gan y llinos werdd ddwy ran i'w chân, gyda gwichian trwynol a thrydar hylifol hardd. Bydd y gwrywod yn canu yn yr awyr weithiau, gan wibio hyd y lle mewn cylchoedd gyda hediad tebyg iawn i ystlumod. Gwrandewch...
Dryw
O aderyn mor fach, mae gan y dryw gân anhygoel o uchel. Mae'n gyfres uchel ei thraw o chwibanau gyda ratl yn rholio tua'r diwedd. Mae'r sain yn aml yn ymddangos fel pe bai'n ffrwydro allan o'r isdyfiant. Gwrandewch...