Cwtiad y Traeth a Llanwau

Cwtiad y Traeth a Llanwau

Image Title: Turnstone (Arenaria interpres) foraging for food amongst seaweed. Outer Hebrides, Scotland.

Credit: 2020VISION Image Collection

Trwy ein gweithgareddau datblygu ieuenctid, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn helpu hyfforddi a galluogi y genhedlaeth nesaf o arweinwyr cadwraethol.

Gwirfoddolwr ers tro byd yw Jayke Forshaw sydd wedi bod hefo’r Ymddiriedolaeth ers cymryd rhan ym mhrosiect Ein Glannau Gwyllt yn 2016 – mae nawr yn aelod blaenllaw o’n Fforwm Ieuenctid Ynys Môn. Fel rhan o’r grŵp yna, mae o wedi ymgyrchu am, ac wedi helpu creu, lleoliadau newydd i fywyd gwyllt ffynnu ar yr ynys – yn enwedig o gwmpas Porthaethwy. Yma mae o yn esbonio am un o’r nifer o rywogaethau sydd wedi ysgogi ei hoffter o natur, ac sydd hefyd yn ein atgoffa ni o ryfeddodau bywyd gwyllt y gwelwn yn ddyddiol ac yr ydym yn aml yn gymryd yn ganiataol.
Jayke

Background image © Barrri Williams

Yn hytrach na syrffio neu dorheulo, byddwn yn mynd â beiros a llyfr ac yn diflannu oddi wrth y torfeydd heibio'r morglawdd.

Tra’r o’n i ar wyliau gwersylla gyda’r teulu'n fachgen ifanc, ro'n i'n arfer crwydro ar fy mhen fy hun ar y traeth am oriau ac oriau. Yn hytrach na syrffio neu dorheulo, byddwn yn mynd â beiros a llyfr ac yn diflannu oddi wrth y torfeydd heibio'r morglawdd. Yn yr haul tanllyd yn gwisgo jîns hurt o llac a hwdi du, fe fyddwn i'n dod o hyd i graig gyfforddus i ymlacio arni yn llawer rhy agos at y dŵr. Fe fyddwn i'n gwylio'r cymylau'n mynd heibio wrth ysgrifennu'r math o farddoniaeth ofnadwy roedd pob goth 13 mlwydd oed yn ei hysgrifennu, gyda lluniau rhyfedd i fynd gyda hi. Fe fyddwn i'n gwrando ar gerddoriaeth drwy’r amser, ond gyda'r sain yn isel er mwyn i mi allu clywed y môr, y gwylanod yn hedfan uwchben, neu'r cadwyni'n chwyrlïo yn yr harbwr wrth i'r tractor gludo’r cychod pysgota bach i’r lan ychydig droedfeddi i ffwrdd.

Unwaith neu ddwy, gwyliais bobl yn mynd yn sownd ar y creigiau gyferbyn; rhywun mewn caiac yn padlo'n ddewr o amgylch y pentir tuag at gefnfor agored yr Iwerydd, neu blentyn bach yn cael dod i weld y pyllau creigiau enfawr oedd yn cuddio yn yr ardal anghysbell hon ymhell o dywod gwyn y traeth ei hun.

Ro'n i bob amser yn eu dychmygu nhw fel plant bach, yn rhedeg at y tonnau wrth iddyn nhw fynd allan, yna’n cael eu synnu wrth i'r dŵr droi a dechrau mynd ar eu holau i’r cyfeiriad arall.

Ond ro'n i'n gwylio cwtiaid y traeth bob dydd. Ro’n i’n meddwl eu bod nhw braidd yn wirion bryd hynny. Adar bach crwn, yn dew ac yn fach ar yr un pryd. Cefais fy synnu eu bod nhw ar y rhestr oren oherwydd ro’n i mor gyfarwydd â'u gweld nhw. Roedden nhw'n gallu cuddio'n berffaith ar wahân i'w boliau gwyn, roedden nhw'n dewis clogfaen gwenithfaen mawr i eistedd wrth ei ymyl am oriau i orffwys; bob amser mor agos at y cefnfor fel bod unrhyw newid sydyn yn y tonnau yn gwneud iddyn nhw redeg fel ffyliaid, gan hopian o garreg i garreg, yn ceisio osgoi mynd i mewn i’r ewyn.

Ro'n i’n cwestiynu’r hyn yn aml ar y pryd, heb sylwi fy mod innau'n gwneud yr union yr un fath. Ro’n i’n mwynhau bod mor agos at y dŵr, yn gwylio’r llanw a thrai, yn teimlo ewyn ysgafn y môr ar fy wyneb pan oedd y gwynt dal yn dyner. Weithiau, byddwn yn rhedeg i ffwrdd pan oedd y môr yn dod yn rhy agos at fy llyfrau nodiadau, a fyddai’n fy ngorfodi i neidio o graig i graig i osgoi’r llanw. Roedd yr awel yn oer, doedd neb o gwmpas i darfu arnom ni, ac roedd yn lle braf i orffwys er gwaethaf y peryglon o bryd i’w gilydd.

Weithiau byddai ton yn cilio a byddai'r haid gyfan yn rhedeg ymlaen fel pe bai'n ei hel yn ôl i'r môr; ffordd dda o godi unrhyw bryfed y tarfwyd arnyn nhw heb orfod mynd ar eu holau am hir. Ro'n i bob amser yn eu dychmygu nhw fel plant bach, yn rhedeg at y tonnau wrth iddyn nhw fynd allan, yna’n cael eu synnu wrth i'r dŵr droi a dechrau mynd ar eu holau i’r cyfeiriad arall. Mae'n hawdd dychmygu eu bod nhw'n cael hwyl, yn mwynhau rhedeg ar ôl y tonnau gymaint â ni.

Rwy'n deall yn awr faint mwy o egni mae'n ei gymryd i adar hedfan yn hytrach na cherdded, do'n i erioed wedi meddwl am y peth o’r blaen. A doedd gen i ddim syniad chwaith os oedd angen i'r adar adael, ei bod yn debygol bod angen i minnau adael hefyd.

Yn y diwedd byddai'r llanw'n torri drwy’r haid fach, a byddai’n rhaid iddyn nhw benderfynu a oedd hi’n werth hedfan i osgoi cael eu plu yn wlyb, a buaswn yn meddwl eu bod yn wirion eto i beidio â gwneud hynny'n gynt. Wedi'r cyfan, adar ydyn nhw felly pam wnawn nhw ddim hedfan?  Rwy'n deall yn awr faint mwy o egni mae'n ei gymryd i adar hedfan yn hytrach na cherdded, do'n i erioed wedi meddwl am y peth o’r blaen. A doedd gen i ddim syniad chwaith os oedd angen i'r adar adael, ei bod yn debygol bod angen i minnau adael hefyd. Roedd dewis y graig uchaf i eistedd arni yn rhoi golygfa wych i mi o beth oedd cwtiaid y traeth wedi bod yn ei wneud, gyda’r dŵr yn troelli bob ochr i mi. Dyna pryd mae’n rhaid i chi benderfynu a ydych chi'n cael halen ar eich unig bâr o esgidiau rhedeg neu a ydych chi'n rholio'ch jîns enfawr a mentro’n droednoeth am na allwch chi neidio'r ddau fedr llawn i'r graig fawr nesaf sy'n dal yn sych. Yn amlwg do’n i ddim mor glyfar â chwtiaid y traeth.