Glaswelltir gosgeiddig tirlun carreg galch

Glaswelltir gosgeiddig tirlun carreg galch

View from Moel Hiraddug with limestone grassland in the foreground ©Craig Wade

Ymunwch â'r Swyddog Prosiect Craig Wade wrth iddo archwilio glaswelltiroedd calchfaen hynod ddiddorol Moel Hiraddug, sy’n cael ei adnabod fel Mynydd Dyserth – bryngaer o'r Oes Haearn, sydd hefyd yn hen chwarel, ac sydd bellach yn ffurfio glaswelltiroedd calchog lled-naturiol prin, wedi'u lleoli ym Mryniau hardd Clwyd yng Ngogledd Cymru. Ond oeddech chi'n gwybod bod goresgynnwr estron yn cuddio o flaen eich llygaid!
Invasive cotoneaster overtaking limestone habitat

Invasive cotoneaster overtaking limestone habitat Moel Hiraddug ©Craig Wade NWWT

Ar ddiwrnod arferol o haf Prydeinig ym mis Mehefin – cymylog a gwyntog, ond eto yn rhyfeddol o gynnes - dilynais y llwybr i fyny'r allt. Doedd hi ddim yn hir cyn i mi ddod ar draws prysg gwyrdd trwchus ar y llethrau, gyda blodau gwyllt brodorol yn cystadlu am le. Fodd bynnag, o edrych yn agosach roedd yn ymddangos bod llawer o'r dirwedd wedi’i ddominyddu gan un rhywogaeth ymledol: cotoneaster (Cotoneaster horizontalis), a oedd wedi cymryd y cynefin gwerthfawr hwn drosodd yn ymosodol.

Cyflwynwyd cotoneaster ymledol i'r DU o Ddwyrain Asia ar ddiwedd y 19eg ganrif fel planhigyn gardd, gyda dros 100 o fathau wedi'u meithrin. Mae bellach yn cael ei gydnabod fel un o'r deg prif rywogaethau sy’n effeithio'n negyddol ar safleoedd gwarchodedig yng Nghymru. Mae eu aeron yn cael eu gwasgaru'n hawdd gan adar sy'n cyfrannu at ei dosbarthiad eang.

Mae rhywogaethau cotoneaster wedi’u rhestru ar Atodlen 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad y DU fel rhywogaeth ymledol. Nid yw hyn yn golygu na allwch ei dyfu yn eich gardd, ond ystyriwch yr effaith bosibl ar fywyd gwyllt a dewis opsiynau eraill os yn bosibl. Mae llawer o sefydliadau, gan gynnwys ni yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, wedi ymrwymo i gael gwared â'r planhigyn ymledol hwn er mwyn cynnal cydbwysedd naturiol ac amrywiaeth ecosystemau lleol.

Limestone grasslands of Moel Hiraddug

Limestone grasslands of Moel Hiraddug ©Craig Wade NWWT

 

Mae ein Prosiect Adfer Glaswelltir Calchfaen yn canolbwyntio ar gofnodi a rheoli cotoneaster ymledol ar bum safle gwarchodedig yng Ngogledd Cymru. Lansiwyd ein 'Cynllun Cyfnewid Planhigion' ein hunain i ymgysylltu â garddwyr lleol mewn ymdrechion cadwraeth. Mae egin-arddwyr yn codi eu hoffer i gael gwared ar y cotoneaster a geir yn eu gerddi eu hunain – llwyddiant bach i fyd natur gyda bron i 60 o blanhigion cotoneaster ymledol yn cael eu gwaredu, gan leihau'r ffynhonnell hadau.

Cawsant daleb garddio i’w ddisodli gydag opsiynau amgen cyfeillgar i fywyd gwyllt, fel celyn, Skimmia 'Nymans' neu yswydd gwyllt.  Diolch o galon i bawb a gymerodd ran! Mae ein gerddi'n fannau hyfryd sy'n gofyn am ofal ac ymroddiad i'w sefydlu.

View from Moel Hiraddug with limestone grassland in the foreground 

View from Moel Hiraddug with limestone grassland in the foreground ©Craig Wade NWWT

Ar ôl cyrraedd y copa, fe wnaeth yr amrywiaeth eang o blanhigion oedd wedi blodeuo ddal fy niddordeb ar unwaith ac roeddwn yn gyffrous i archwilio'r llwybr glaswelltog. Yn ystod fy ymweliad, roedd y ddaear yn garped o rosyn y graig cyffredin euraidd, ynghyd â theim gwyllt persawrus, rhosyn bwrned, ffacbys y berth, bwrned salad ac effros cain – i gyd wedi blodeuo.

 

Common Blue Butterfly- Moel Hiraddug

Common Blue Butterfly- Moel Hiraddug ©Craig Wade NWWT

Roedd y llwyth o löynnod byw a phryfed o'i gymharu ag ar fy nhaith i fyny trwy'r cotoneaster trwchus yn amlwg. Daliodd glöyn byw glas cyffredin fy sylw, yn ogystal â su cacwn a chwilod i gyd yn peillio'r blodau.

Yn ffodus, roedd y tywydd dal yn glir i fwynhau'r golygfeydd panoramig o gefn gwlad cyfagos, ac Arfordir Gogledd Cymru, gan feddwl am eiliad a chael seibiant o brysurdeb y dydd. Roedd cyffwrdd â'r glaswellt a'r calchfaen yn rhoi ymdeimlad o gysylltu â natur. Mae'n bwysig bod y cynefinoedd prin hyn yn parhau i ffynnu ac yn cael eu rheoli i'w gwarchod ar gyfer natur, i ni nawr, ac i genedlaethau'r dyfodol fwynhau eu rhyfeddod.

View from Moel Hiraddug with limestone grassland in the foreground 

View from Moel Hiraddug with limestone grassland in the foreground ©Craig Wade

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn rheoli 36 o warchodfeydd natur, gan gynnwys cynefinoedd glaswelltir calchfaen Maes Hiraddug, Bryn Pydew a Rhiwledyn i enwi ond ychydig. Mae ein tîm gwarchodfeydd ymroddedig a'n gwirfoddolwyr yn gwarchod y glaswelltiroedd hyn gan ddefnyddio dulliau traddodiadol, i gadw lefelau nitrogen pridd yn isel, a lleihau cystadleuaeth gan laswelltiroedd talach yn yr haf. Maen nhw’n rhad ac am ddim i ymweld â nhw! Dysgu mwy yma: Gwarchodfeydd Natur

 

Mae'r prosiect Adfer Glaswelltir Calchfaen wedi bod yn bosibl diolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri, ar ran Llywodraeth Cymru.

 

Nid bwriad y blog hwn yw bod yn ganllaw cerdded, ond os ydych chi'n mentro allan, arhoswch ar hawliau tramwy neu lwybrau dynodedig. Parchwch breswylwyr a thirfeddianwyr, cadwch gŵn dan reolaeth neu ar dennyn gan y gallai fod da byw yn crwydro. Mae'r llwybr yn cynnwys llwybrau serth, anwastad, llithrig a chwympiadau sydyn. Cynghorir esgidiau priodol.

Lottery heritage fund logo (Cronfa Treftadaeth) with Welsh Government

®Lottery Heritage Fund in partnership with Welsh Government

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. 

Mae’n cael ei gyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.