Yr hyn rydym yn galw amdano
Mae Adroddiad Cyflwr Byd Natur 2023, sy’n adroddiad allweddol, wedi dangos bod y DU – sydd eisoes wedi’i dosbarthu fel un o’r gwledydd sydd wedi colli’r gyfran fwyaf o’i byd natur yn y byd – yn parhau i ganiatáu i fyd natur ddirywio.
Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i gynllun i atal a gwyrdroi'r duedd hon yn derfynol. Rhaid i'w polisïau gael eu targedu tuag at adfer rhywogaethau, mynd i'r afael â llygredd dŵr, ariannu ffermio sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt, galluogi cymunedau iach, a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Ochr yn ochr â chynigion Natur 2023 Cyswllt Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, rydym eisiau i’r ceisiadau hyn sicrhau bod pob plaid yn sefyll ar blatfform gydag adferiad byd natur yn ganolog iddo.
Mae’n gliriach nag erioed o’r blaen bod pobl yn poeni mwy am gyflwr eu hamgylchedd naturiol.
Er bod yr amgylchedd, ffermio a physgodfeydd wedi’u datganoli (penderfyniadau’n cael eu gwneud yng Nghaerdydd), rydym yn parhau i fod eisiau i bleidleiswyr yng Nghymru anfon neges glir at ASau i ddweud eu bod yn poeni am yr hyn sy’n digwydd i fyd natur.
Pum Blaenoriaeth
Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru wedi nodi pum blaenoriaeth ar gyfer ASau cyn etholiad cyffredinol nesaf y DU. Byddwn hefyd yn gofyn i wleidyddion y Senedd gefnogi’r un ceisiadau yn etholiad Llywodraeth Cymru yn 2026.
Dod â bywyd gwyllt coll y DU yn ôl
Rhaid i Lywodraeth y DU weithio ar draws adrannau i adfer byd natur drwy ddiogelu ac adfer o leiaf 30% o’r tir a’r môr ar gyfer byd natur erbyn 2030. Dylai afancod fod ym mhob dalgylch afon, dylai rhwydwaith adfer natur uno mannau gwyllt, a dylid gwahardd arferion pysgota niweidiol – fel treillio ar waelod y môr.
Rhoi Terfyn ar Lygredd mewn Afonydd
Gyda’r DU ymhlith y gwledydd gwaethaf yn Ewrop am ansawdd dŵr, rhaid i Lywodraeth y DU ariannu’r holl asiantaethau gorfodi’n ddigonol i wneud eu gwaith. Erbyn 2030, rhaid o leiaf haneru llygredd maethynnau o ffermio, carthffosiaeth a datblygu, rhaid cael gwarchodaeth gadarnach i ddyfrffyrdd, a dylid creu mwy o wlybdiroedd i fynd i’r afael â llifogydd a sychder.
Ariannu ffermio sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt
Dinistrio byd natur ac effeithiau newid hinsawdd yw'r bygythiadau mwyaf i sicrwydd bwyd yn y DU. Rhaid cefnogi a chymell ffermwyr i helpu bywyd gwyllt i adfer drwy greu mwy o le ar gyfer byd natur, lleihau llygredd yn sylweddol, a haneru niwed o blaladdwyr erbyn 2030. Dylai'r gyllideb ar gyfer ffermio sy'n gyfeillgar i fyd natur gynyddu i o leiaf £4.4 biliwn y flwyddyn, gyda chodiad cyfatebol i ffermwyr Cymru.
Galluogi cymunedau iach
Mae mwy na thraean o bobl yn methu cael mynediad i fannau gwyrdd ger eu cartrefi. Rhaid i Lywodraeth y DU gefnogi creu mwy o fannau gwyrdd mewn cymdogaethau, ariannu ac integreiddio presgripsiynau gwyrdd mewn gwasanaethau iechyd yn y gymuned a galluogi pob plentyn i fanteisio ar gyfleoedd dysgu awyr agored.
Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy warchod ac adfer cynefinoedd naturiol
Gall byd natur wneud cyfraniad enfawr at gyrraedd targedau sero net os caiff cynefinoedd eu hadfer oherwydd bod mawndiroedd, coetiroedd a mannau gwyllt eraill yn storio carbon. Yn ogystal, rhaid i Lywodraeth y DU integreiddio strategaethau addasu i’r hinsawdd ar draws pob adran, creu rhwydwaith adfer natur i helpu bywyd gwyllt i addasu i newid, amddiffyn storfeydd carbon glas rhag difrod, a buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni.
“Mae’r adroddiad Cyflwr Byd Natur diweddaraf yn dangos, er gwaethaf rhai llwyddiannau, nad yw’r dirywiad brawychus parhaus mewn bywyd gwyllt yng Nghymru wedi dod i ben... gydag 1 o bob 6 rhywogaeth yng Nghymru dan fygythiad bellach.”Cyfarwyddwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru