Dewch i ddarganfod bywyd gwyllt Nadoligaidd Bangor

Fergus Gill

© Ferud Gill/2020Vision

Dewch i ddarganfod bywyd gwyllt Nadoligaidd Bangor

Lleoliad:
North Wales Wildlife Trust - Bangor office, Llys Garth, Ffordd Garth, Bangor, Gwynedd, LL57 2RT
Mae coetiroedd derw crog, glaswelltiroedd diddorol ac adar môr y gaeaf i gyd i’w gweld o amgylch Bangor – dewch i ddarganfod ble!

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Swyddfa YNGC Llys Garth, Ffordd Garth, Bangor, LL57 2RT

Dyddiad

Time
10:30am - 1:00pm
A static map of Dewch i ddarganfod bywyd gwyllt Nadoligaidd Bangor

Ynglŷn â'r digwyddiad

Cyfarfod yn Llys Garth, swyddfa YNGC ym Mangor, a chael coffi wrth edmygu ein gardd fywyd gwyllt hyfryd ni. Byddwn wedyn yn cerdded tuag at y pier ac i fyny at y gwersyll Rhufeinig lle mae golygfeydd draw am Eryri ac ar draws Afon Menai. Mae’r coetiroedd hynafol a’r glaswelltiroedd o amgylch y gwersyll Rhufeinig yn wych ar gyfer bioamrywiaeth a byddwn hefyd yn cadw llygad am adar gwyllt ac adar rhydio o bier Bangor. 

Bydd y daith gerdded yn cychwyn yn brydlon am 10:30, felly cofiwch gyrraedd 15 munud yn gynnar.

Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg sgyrsiol, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.

Bwcio

Pris / rhodd

£3

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn
image/svg+xml

Symudedd

Mae rhai rhannau o'r daith gerdded yn hygyrch, ond nid eraill. Os hoffech chi drafod eich anghenion penodol, cysylltwch â:  caroline.bateson@northwaleswildlifetrust.org.uk

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Gwisgwch yn gynnes a chofiwch roi esgidiau da am eich traed oherwydd gall y llwybrau fod yn lithrig. Mae rhai llethrau serth i fyny at y gwersyll Rhufeinig.

image/svg+xmli

Facilities

Toiledau
Toiled i'r anabl

Cysylltwch â ni