Helpwch ni i arolygu’r adar sy’n ymweld â’n Gwarchodfa Natur ni yng Nghemlyn y gaeaf yma
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Oes gennych chi ddiddordeb mewn adar? Os felly, dewch i ymuno â ni a helpu i arolygu’r adar sy’n ymweld â’n Gwarchodfa Natur ni yng Nghemlyn y gaeaf yma.
Mae Gwarchodfa Natur Cemlyn yn arbennig o dda ar gyfer adar dŵr ac adar rhydio ac mae gennym ni ddiddordeb mewn gweld pa adar sy'n defnyddio'r warchodfa yma.
Does dim angen unrhyw brofiad, dim ond diddordeb mewn byd natur a bod yn yr awyr agored. Dewch â'ch sbienddrych a'ch llyfrau adnabod adar gyda chi os oes gennych chi rai.
Mae ein prosiect Natur yn Cyfrif ni angen eich help chi i gofnodi byd natur yn ein gwarchodfeydd ni. Byddwn yn cofnodi llawer o fyd natur ar draws nifer o’n gwarchodfeydd ni dros y flwyddyn nesaf, felly cadwch lygad am fwy o ddigwyddiadau arolygu sydd i ddod yn fuan!
Bwcio
Pris / rhodd
Croesawn roddionGwybodaeth archebu ychwanegol
Rhaid cofrestruYn addas ar gyfer
Oedolion, Arbenigwyr, DechreuwyrGwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Cysylltwch â ni
Rhif Cyswllt: 07375520494
Cysylltu e-bost: helen.carter-emsell@northwaleswildlifetrust.org.uk