
Flint castle © Reece Halstead NWWT
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Dewch i ddathlu’r môr o amgylch Sir y Fflint yng Nghastell y Fflint gyda gweithgareddau, stondinau a chyfleoedd i brofi’r arfordir mewn ffordd gwbl newydd! Bydd gan yr ŵyl yma sy’n gyfeillgar i deuluoedd ddigonedd i bobl o bob oed a gallu blymio iddo, gan roi cychwyn gwych i’r gwanwyn!
Mae Gŵyl y Môr yn ddigwyddiad AM DDIM felly beth am roi cynnig ar rywbeth newydd a dechrau eich antur drwy ein moroedd ni ac ar hyd ein harfordiroedd!
Mae Gŵyl y Môr yn cael ei chyflwyno i chi fel rhan o Y Môr a Ni - Llythrennedd y Môr ar gyfer Cymru gan Gynghrair Llythrennedd y Môr Cymru a Phartneriaeth Arfordiroedd a Moroedd ehangach Cymru.
Mae partneriaid yr ŵyl yn cynnwys: RNLI, The Royal Navy, Flintshire Coast Park, Keep Wales Tidy, Mold Pastic Reduction, Seawatch Foundation, Nature Keen, Kirsty Hall, Natural Resources Wales, and Rainbow Biz. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r dudalen archebu.