Taith gerdded dysgwyr Cymraeg

Breakwater Lookout

© Caroline Bateson

Taith gerdded dysgwyr Cymraeg

Lleoliad:
Breakwater Country Park, Holyhead, Anglesey, LL651YG
Cyfle i archwilio clogwyni’r arfordir ar ein taith i Ynys Arw, ymarfer sgwrsio yn y Gymraeg, a dysgu enwau bywyd gwyllt yn y Gymraeg.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Siop a Chaffi'r Ymddiriedolaeth Natur, Parc y Morglawdd, Caergybi, LL65 1YG

Dyddiad

Time
11:00am - 2:00pm
A static map of Taith gerdded dysgwyr Cymraeg

Ynglŷn â'r digwyddiad

Ymunwch â ni am daith gerdded drwy ddolydd a thuag at Ynys Lawd ar hyd arfordir dramatig Ynys Môn. Cyfle i fwynhau bywyd gwyllt y gwanwyn a dysgu enwau Cymraeg blodau gwyllt, adar a bywyd y môr. Mae arweinydd y daith gerdded yn ddysgwr Cymraeg ac eisiau darparu amgylchedd hamddenol i ymarfer sgwrsio wrth fwynhau byd natur.

Bwcio

Pris / rhodd

£3

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Oedolion, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn
image/svg+xml

Symudedd

Ni fydd y daith yn fwy na 3 milltir o hyd ond mae'r llwybrau'n greigiog ac yn anwastad. Mae rhywfaint o’r daith ar hyd clogwyni’r môr a bydd un allt serth i’w dringo.

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Dewch wedi gwisgo ar gyfer y tywydd a gwisgwch esgidiau cerdded da. Mae croeso i chi ddod â phicnic.

Bydd y daith gerdded yn cychwyn yn brydlon am 11:00, felly cofiwch gyrraedd 15 munud yn gynnar.

image/svg+xmlP

Gwybodaeth am barcio

Mae maes parcio talu ac arddangos ym Mharc Gwledig y Morglawdd.

Cysylltwch â ni