
Tyddyn uchaf © Bridget Osborne
Gardd Agored Glan Conwy
Lleoliad:
Tyddyn Uchaf , Glan Conwy, LL28 5PN
Dewch i weld yr ardd agored hon ar fferm weithiol. Mae’n rhan o’r Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur.
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Y gwanwyn hwn, dewch i ymweld â’r ardd hardd hon yn y bryniau uwchben Glan Conwy, ar fferm weithiol sy’n rhan o’r Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur. Nature Friendly Farming Network.
Gyda golygfeydd godidog ac yn llawn cyfleoedd i fywyd gwyllt, mae’n lle diddorol ac ysbrydoledig, sy’n werth ymweld ag ef.
Diolch o galon i Bridget am ganiatáu mynediad i'w gardd.
Trefnwyd y digwyddiad hyn gan Gangen Wirfoddol Conwy o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.