
© Luke Massey 2020Vision
Llwybrau, cynffonnau a thraciau yn Llyn Brenig (sesiwn 1)
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Ymunwch â ni am brofiad ymarferol wedi'i ysbrydoli gan fyd natur i'r teulu cyfan! Mae gennym ni lawer o bethau cyffrous i'w gwneud, gan gynnwys:
Siwrnai ar ein llwybr natur, dod o hyd i'r anifeiliaid ac ateb cyfres o gwestiynau... pwy a ŵyr, efallai y byddwch chi'n ennill 'trysor' (gwobr fechan i bob plentyn sy’n cwblhau’r her).
Beth am fod yn draciwr arbenigol! Darganfyddwch y traciau y mae gwahanol anifeiliaid yn eu gwneud, ac wedyn rhoi cynnig ar wneud rhai eich hun. Cyn bo hir byddwch yn dilyn llwybrau anifeiliaid ar hyd llwybrau coetir ac yn cael anturiaethau rhyfeddol yn y byd naturiol.
Dewch i wrando ar Andy, ein storïwr lleol ni, a fydd yn adrodd hanesion am anifeiliaid ac efallai’r tylwyth teg drwg hyd yn oed sy'n byw yn y bryniau o amgylch Llyn Brenig. Dewch â phicnic, mae gennym ni ddigonedd o feinciau!
Mae gan fyd natur gymaint i'w gynnig! Felly beth am ddod draw i Wylfa Gweilch YNGC? Byddwch yn gweld ac yn dysgu popeth am ein gweilch y pysgod rhyfeddol a'r bywyd gwyllt gwych arall sydd gennym ni o amgylch y llyn.
Methu dod y tro yma neu awydd ymuno â ni eto? Dewch draw ar gyfer sesiwn 2 ar 30 Mai!
Bwcio
Pris / rhodd
£3 y plentyn (Am ddim i oedolion ond bydd rhaid i blant fod gyda nhw bob amser.)Gwybodaeth archebu ychwanegol
Rhaid cofrestuYn addas ar gyfer
Teuluoedd, DechreuwyrGwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Caniateir cŵn sy'n ymddwyn yn dda ar dennyn.