
©Jon Hawkins Surrey Hills Photography

Dark Green Fritillary ©Jim Higham
Cyfle i archwilio twyni Talacre i chwilio am degeirianau'r gors a mwy!
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Byddwn yn chwilio am degeirianau'r gors a dylai fod nifer dda o löynnod byw yma, gan gynnwys y fritheg werdd. Efallai y byddwn yn gweld môr-wenoliaid bach yn hedfan heibio hefyd.
Sylwch fod ansicrwydd ynghylch argaeledd y maes parcio. Edrychwch ar wefan YNGC cyn cychwyn i’r warchodfa.
Trefnwyd y digwyddiad hyn gan Gangen Wirfoddol Wrecsam o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.