Taith gerdded glöynnod byw

A female common blue butterfly, with a sprinkling of blue on her brown wings

Common blue (female) © Frank Porch

Taith gerdded glöynnod byw

Lleoliad:
Dathlwch Ddiwrnod Cenedlaethol y Dolydd drwy archwilio’r dolydd yng Ngwarchodfa Natur Aberduna a’n helpu ni i gofnodi’r glöynnod byw rydyn ni’n eu gweld!

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Cyfarfod ym maes parcio swyddfa YNGC yn Aberduna: CH7 5LD; what3words///obey.pens.centrally

Dyddiad

Time
10:00am - 1:00pm
A static map of Taith gerdded glöynnod byw

Ynglŷn â'r digwyddiad

Does dim angen unrhyw brofiad oherwydd bydd ein harbenigwyr ni ar y diwrnod wrth law i adnabod unrhyw beth rydyn ni’n ei weld.

Sylwch na fydd y digwyddiad yma’n cael ei gynnal os nad yw rhagolygon y tywydd yn dangos tywydd da, sef yr amser pan fydd gloÿnnod byw yn debygol o fod yn brysur. Os bydd y trefnydd yn penderfynu bod rhagolygon y tywydd yn edrych yn wael, efallai y bydd y digwyddiad yn cael ei ganslo yn y dyddiau cyn ei gynnal, a bydd pawb sy'n bwriadu mynychu yn cael gwybod am hynny drwy e-bost.

Bwcio

Pris / rhodd

Anogir rhoddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn
image/svg+xml

Symudedd

Cyfleusterau toiled ar gael ar ddechrau a diwedd y digwyddiad yn unig. Bydd y toiledau’n cael eu cloi yn ystod y daith glöynnod byw yn y warchodfa.

Mae rhai llwybrau serth a stepiau ar draws y warchodfa, sy’n gallu bod yn llithrig, yn dibynnu ar y tywydd.

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Gwisgwch ddillad awyr agored ac esgidiau addas.

Cysylltwch â ni