TYNNU'R STRAEN ODDI AR GYNLLUNIO GWERSI
Mynediad at adnoddau am ddim i athrawon ysgolion cynradd.
Gyda'r Pedwar Diben mewn golwg, rydym ni’n gweithio gydag athrawon i ddatblygu cynnwys y gellir ei ddefnyddio ar gyfer disgyblion yng Nghyfnodau Allweddol gwahanol eich ysgol, gan ddefnyddio natur a bywyd gwyllt fel thema.
Edrychwch ar y llyfrgell adnoddau isod, byddwn yn ychwanegu ato yn rheolaidd.
COFRESTRWCH I DdERBYN CYLCHGRONAU RHAD AC AM DDIM
(*Sylwch mai dim ond un copi y gallwn ei anfon o bob rhifyn fesul ysgol – os bydd mwy nag un aelod o staff yn cofrestru, byddwn mewn cysylltiad i ofyn at bwy i’w anfon. Dim ond ysgolion yng Ngogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam) all gofrestru ar gyfer y cynnig hwn.)
I GAEL HYD YN OED MWY O WEITHGAREDDAU, EWCH I'N GWEFAN GWYLLT / WILDLIFE WATCH
Mae gwefan dwyieithog Gwyllt / Wildlife Watch yr Ymddiriedolaethau Natur yma i blant (ac oedolion!) sy’n methu cael digon ar archwilio’r awyr agored a’r rhai sydd eisiau dod i wybod mwy am y creaduriaid rhyfedd a rhyfeddol rydyn ni’n rhannu ein byd â nhw. Gallwch ddod o hyd i ffeithiau hwyl; cwisiau ar-lein; a llwyth o weithgareddau ac adnoddau i'w lawrlwytho – i gyd am ddim!
Cynhyrchwyd ein adnoddau ar gyfer ysgolion diolch i gefnogaeth chwaraewyr Loteri y Côd Post.