Beth yw COP15?
Mae COP yn sefyll am 'Conference of the Parties' a dyma gynadleddau'r Cenhedloedd Unedig ar ei wahanol gonfensiynau. Yn 2022, mae COPs yn digwydd ar yr hinsawdd (COP27) a natur (COP15). COP15 yw lle mae arweinwyr y byd yn dod ynghyd i adolygu gweithrediad y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (neu CBD). Cytundeb byd-eang ar gadwraeth natur yw CBD. Trwy hyn, mae 196 o bleidiau yn anelu at gytuno ar 20 targed byd-eang a fydd yn atal colli bioamrywiaeth.
Gaeth COP15 ei gynnal rhwng dydd Mercher 7fed Rhagfyr a dydd Llun 19eg Rhagfyr 2022 gan Tsieina ym Montreal, Canada.
Beth mae'r Ymddiriedolaethau Natur eisiau ei weld o COP15?
Mae pobl ifanc ledled Cymru yn siarad am COP15
Mae cyfranogwyr y prosiect Sefyll Dros Natur Cymru gyfan wedi cydnabod pwysigrwydd COP15, a’r angen i sicrhau bod natur yn cael ei chynrychioli ym Montreal gan lais ifanc hefyd. Maent wedi creu maniffesto gwych y gallwch ei lawrlwytho a'i rannu isod, yn ogystal â fideo yn egluro pam eu bod yn siarad heddiw.
(Mae gan y fideo is-deitlau Cymraeg os yr ydach chi eisiau dilyn yn y Gymraeg.)