Swyddog Codi Arian Corfforaethol (0.6 FTE)

Swyddog Codi Arian Corfforaethol (0.6 FTE)

Diwrnod cau:
Cyflog: £27,000-35,000 (yn dibynnu ar brofiad; cyflog gwirioneddol ar gyfer 0.6 FTE £16,200-£21,000)
Math y cytundeb: Parhaol / Oriau gweithio: Rhan amser
Multiple locations:
North Wales Wildlife Trust, Head Office, Llys Garth, Garth Road, Bangor, Gwynedd, LL57 2RT
NWWT East office, Aberduna, Ffordd Maeshafn, Maeshafn, Denbigshire, CH7 5LD
Hybrid
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn chwilio am Swyddog Codi Arian Corfforaethol i arwain ar berthnasoedd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gyda busnesau, gan ganolbwyntio ar eu potensial i gyfrannu incwm anghyfyngedig fel sail i’n Strategaeth 2030 sefydliadol: Dod â Natur yn Ôl.

Byddwch yn dod o gefndir codi arian corfforaethol neu ddatblygu gwerthiant / busnes yn y sector preifat, cyhoeddus neu elusennol. Bydd gennych feddwl masnachol ond yn cael eich gyrru hefyd gan genhadaeth wedi'i seilio ar brofiad o reoli cefnogwyr neu linell werthu, ac o flaenoriaethu rhagolygon i sicrhau'r elw gorau ar fuddsoddiad. Byddem yn disgwyl i chi fod yn gyfforddus gyda'r angen am gyflawni targedau sy'n ymwneud â chynhyrchu incwm. Byddwch yn gyfathrebwr gwych gydag agwedd ddymunol, sy’n gallu gweithio gyda llawer o wahanol bobl ar draws yr amrywiaeth hyfryd o ddaearyddiaeth, datblygiad busnes a gweithgareddau'r Ymddiriedolaeth Natur.

I lwyddo a bod yn hapus yn eich rôl, byddwch yn mwynhau gwneud cyflwyniadau cynnig wyneb yn wyneb ac ysgrifennu cynigion codi arian neu werthiant llwyddiannus - ac, wrth gwrs, cyfrannu at ein pwrpas craidd: dod â bywyd gwyllt yn ôl, grymuso pobl i weithredu dros fyd natur a chreu cymdeithas lle mae byd natur yn bwysig. Mae hon yn rôl newydd a fydd yn esblygu yn dilyn eich penodiad felly dylech fod yn gyffrous am yr hyblygrwydd a'r cyfleoedd i weithredu’n arloesol.

Rydym yn gwerthfawrogi angerdd, parch, ymddiriedaeth, integriti, ymgyrchu pragmatig a chryfder mewn amrywiaeth. Er ein bod yn frwd dros hyrwyddo ein hamcanion, nid ydym yn feirniadol ac rydym yn gynhwysol. Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan bobl sy’n cael eu tangynrychioli yn ein sector ni, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifol a phobl ag anableddau. Rydym wedi ymrwymo i greu mudiad sy'n cydnabod ac wir yn gwerthfawrogi gwahaniaethau a hunaniaethau unigol.

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau Diogelu o ddifrif. Cliciwch yma i ddarllen ein datganiad ymrwymiad  Efallai y bydd yn ofynnol cael archwiliad DBS ar gyfer y rôl hon.

Sut i wneud cais
Mae Disgrifiad Swydd llawn i'w weld isod.
Atodwch CV llawn a hefyd llythyr eglurhaol wrth gyflwyno eich manylion drwy ddilyn y ddolen isod.
Dylai’r llythyr eglurhaol esbonio’n gryno pam fod gennych chi ddiddordeb mewn ymgeisio am y swydd, ac amlygu’r sgiliau neu’r profiad perthnasol yr hoffech chi dynnu ein sylw ni atynt yn arbennig. Defnyddiwch y Disgrifiad Swydd / Manyleb y Person fel pwynt cyfeirio, a pheidiwch â theimlo bod angen ailadrodd gwybodaeth fanwl sydd eisoes yn eich CV.