Gwarchodfa Natur Caeau Tan-y-bwlch
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Ddiwedd y Gwanwyn ac yn yr hafAm dan y warchodfa
Blodau gwyllt a theloriaid
Gyda chloddiau (daear a cherrig) o’u hamgylch, mae’r caeau hyn yn nodwedd weledol sy’n ein hatgoffa ni o sut mae arferion ffermio wedi newid yn ddramatig yn ystod y ganrif ddiwethaf. Amcangyfrifir bod y DU wedi colli 97% o’i dolydd gwair a reolir yn draddodiadol ers y 1930au – sy’n golygu bod y warchodfa’n bwysicach fyth. Mae’r warchodfa ar ei mwyaf lliwgar ddiwedd mis Mehefin a dechrau mis Gorffennaf, pan mae blodau gwyn cain y tegeirian llydanwyrdd mwyaf yn garped ar y caeau. Mae eu lliw golau’n amlwg yng nghanol lliwiau mwy llachar yr effros, pys y ceirw a’r bengaled ddu sy’n llenwi’r safle. Mae’r caeau gwlypach yn is i lawr yn fosäig o laswelltir gwlyb a ffen helyg, sy’n gynefin nythu rhagorol i adar mudo fel teloriaid yr helyg a’r gwair.
Dôl wair draddodiadol
Mewn partneriaeth â’r perchnogion tir, Plantlife, mae dulliau o reoli dolydd gwair traddodiadol wedi cael eu defnyddio ar y dolydd uwch, sychach, ers o leiaf 30 o flynyddoedd. Mae’r rhain yn cynnwys pori ysgafn gan wartheg yn ystod yr hydref a’r gaeaf, torri cnwd o wair ar ddiwedd yr haf, ac osgoi ychwanegu unrhyw wrtaith neu gemegau artiffisial. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae hadau blodau gwyllt wedi cael eu cyfrannu o’r warchodfa hon i greu dolydd blodau gwyllt newydd mewn mannau eraill yng Ngwynedd. Mae’r gors is, wlypach yn cael ei phori gan ferlod yn ystod y gwanwyn a’r haf. Mae staff a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Natur yn rheoli ymlediad y rhedyn i’r dolydd gwair, i atal cysgodi gormodol ar y blodau gwyllt brodorol, a hefyd yn rheoli’r helyg yn y gors i gynnal amodau agored a gwlyb.
Cyfarwyddiadau
Trowch oddi ar yr A499 o Gaernarfon i Bwllheli i bentref Clynnog Fawr. Cymerwch yr 2il (sydyn) ar y chwith ac wedyn troi’n syth i’r dde wrth yr ysgol, i gyfeiriad Capel Uchaf. Ewch ymlaen am ryw ¾ milltir i fyny’r allt a chymryd y cyntaf ar y dde i fyny allt (cudd a dim arwydd). Ewch yn eich blaen i fyny’r trac cul, troellog yma am ryw filltir. Ar ôl tro 90 gradd i’r chwith, mae maes parcio’r warchodfa 150 metr ymlaen ar y chwith i chi, drwy giât i gae (SH 430 488)