Gwarchodfa Natur Graig Wyllt
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Trwy gydol y flwyddynAm dan y warchodfa
Clwyd liwgar, greigiog
Mae Graig Wyllt yn enw addas iawn i ddisgrifio’r hen chwarel galchfaen yma. Mae coetir hynafol yn llawn coed derw ac ynn yn gorchuddio llethrau creigiog yr allgraig yma ac mae llawr y coetir yn llawn blodau’r gwanwyn. Wrth i chi ddringo i fyny drwy’r coed, mae’r canopi’n agor yn raddol ac yn creu olyniaeth o wahanol blanhigion: mae garlleg gwyllt, briallu a blodau’r gwynt yn ildio’u lle i rywogaethau o brysgwydd y glaswelltir fel tegeirian porffor y gwanwyn, briallu Mair sawrus a chlychau’r gog. O fynd ymhellach eto, byddwch yn dringo allan o’r coetir i gyrraedd panorama’r glaswelltir, gyda golygfeydd godidog o Ddyffryn Clwyd yn ymestyn i bob cyfeiriad. Mae’r gymysgedd hyfryd o goetir collddail ac ardaloedd cysgodol o brysgwydd a glaswelltir yn gwneud y warchodfa gyfan yn lle gwych i löynnod byw, gan gynnwys y glöyn llwyd, y brithribin porffor a’r iâr fach fodrwyog.
Cyfarwyddiadau
Mae’r warchodfa oddeutu 3 milltir i’r de ddwyrain o Ruthun, rhwng Graigfechan a Phentre Coch ar y B5429. Parciwch ym maes parcio tafarn y Three Pigeons: mae’r warchodfa’n agos ar droed ar hyd llwybr troed cyhoeddus 100m i lawr y ffordd o’r dafarn ar y chwith (SJ 148 544). Dilynwch y llwybr troed tua’r gogledd am ryw 500m i fynedfa’r warchodfa.