Gwarchodfa Natur Mariandyrys
Lleoliad
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Yr hafAm dan y warchodfa
Blodau gwyllt a golygfeydd gwyllt
Mae’r warchodfa wych yma ar allgraig galchfaen sy’n ei chodi’n uwch na’r ardal o’i hamgylch ac yn cynnig golygfeydd trawiadol, pell drwy gydol y flwyddyn. Cafodd rhannau o’r ardal eu chwarelu am y calchfaen hwn yn y gorffennol ac mae nodweddion y graig sylfaen yn dal i ddylanwadu ar y llystyfiant heddiw. Yn y gwanwyn a’r haf, mae’r safle’n dod yn fyw gyda blodau gwyllt sy’n ffynnu yn y pridd llawn calch, ac mae’r twmpathau o ddaear noeth yn rhoi cipolwg ar boblogaethau prysur o forgrug melyn y ddôl islaw. Mae eithin melyn toreithiog yn amgylchynu’r safle ac yn darparu cartref i glochdar y cerrig a’r llinos. Mae’r aer yn llawn bwrlwm wrth i wenyn a glöynnod byw fanteisio i’r eithaf ar y sioe o flodau.
Dexters dros amrywiaeth
Mae’r warchodfa’n cael ei rheoli gyda’r nod o gynnal ei chlytwaith o gynefinoedd o laswelltir a rhostir. Mae gwartheg Dexter yn pori’r safle ac mae’r eithin yn cael ei dorri ar gylchdro i greu strwythur oedran amrywiol. Mae’r ddau gam gweithredu yma’n rheoli ymlediad y prysgwydd, a fyddai’n tagu perlysiau a blodau gwannach y glaswelltir fel arall.
Cyfarwyddiadau
Mae Mariandyrys yn ne ddwyrain Ynys Môn. Dilynwch y B5109 tua’r dwyrain allan o Fiwmares i gyfeiriad Llangoed. Wrth i chi adael pentref Llangoed, trowch i’r chwith i gyfeiriad Glanrafron. Dilynwch y ffordd i fyny’r allt drwy’r pentref: mae’r trac i’r warchodfa ar y chwith wrth i chi fynd rownd cornel i’r dde yn nhop yr allt (SH 603 811). Parciwch yma ar ochr y ffordd a cherdded at fynedfa’r warchodfa.