Roedd yn bleser cael tywys Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn, o amgylch Tirwedd Fyw Corsydd Môn ddydd Llun 17 Mehefin. Ar ôl ymweliad i ddechrau â Gwarchodfa Natur Cors Goch yr Ymddiriedolaeth Natur, lle defnyddiwyd y cyfle i drafod y problemau o bwys i’r corsydd (gan gynnwys llygredd a darnio), aethom ymlaen i ambell safle prosiect arall gerllaw. Cafwyd cyfle i weld pyllau, dôl o flodau gwyllt, glannau gwenyn, gwaith yn clirio rhywogaethau ymledol a gwrychoedd sydd wedi cael eu creu o dan y prosiect, gan ychwanegu cynefinoedd gwerthfawr at y dirwedd.
AC yn ymweld â Thirwedd Fyw Corsydd Môn
Dywedodd Henry Cook (Swyddog Tirwedd Fyw Corsydd Môn) ei fod “yn gyfle gwych i ddangos i wleidydd dylanwadol yn y rhanbarth y gwaith y mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn ei wneud gyda chefnogaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r Dirwedd Fyw yn symud cadwraeth natur y tu hwnt i ffiniau ein gwarchodfeydd natur ni ac i’r dirwedd ehangach drwy weithio gyda chymunedau lleol er mwyn creu ecosystem fwy cysylltiedig ac, o’r herwydd, gadarnach.”
Roedd yr ymweliad yn amseru perffaith ar gyfer arddangosfa ragorol o degeirianau, a edmygwyd gan bawb, gan gynnwys y paladr blodeuwyrdd prin ar ochr ffordd. Tynnodd hyn sylw at bwysigrwydd yr ymylon i fywyd gwyllt ac fel ardaloedd i’r cyhoedd eu mwynhau wrth gerdded, beicio a gyrru. Rydym yn gobeithio gweithio gyda Rhun i sicrhau bod mwy o ymylon ffyrdd Ynys Môn yn cael eu rheoli’n well ar gyfer y dyfodol.