Gyda’r dyddiau’n oeri ac yn byrhau, mae adar yr ardd yn ei chael yn fwy anodd dod o hyd i fwyd. Mae adar angen storfeydd hanfodol o fraster i gynnal tymheredd y corff dros fisoedd y gaeaf, pan nad oes aeron ar y coed a phan mae pryfed blasus yn cael eu claddu dan rew y ddaear. Mewn byd sy’n mynd yn fwy a mwy trefol, mae teclynnau bwydo adar yn llawn stoc dda o fwyd yn adnodd cwbl hanfodol i adar yr ardd.
Mae hefyd yn syniad da newid rhywfaint o’r hadau adar am gynhyrchion gyda mwy o fraster. Efallai nad ydi siwet neu flociau lard at eich dant chi, ond maen nhw’n wych i’n ffrindiau bach pluog ni – gan eu helpu i baratoi haenen gynnes ar gyfer y dyddiau barugog sydd o’n blaen! Edrychwch ar wefan Vine House Farm Bird Foods i stocio bwyd adar eleni – bydd 4% o werth eich archeb yn cael ei gyfrannu’n ôl i’ch Ymddiriedolaeth Natur leol, gan wneud i’ch arian fynd ymhellach!