Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi bod yn cefnogi rhai o berchnogion Big Covert Wood, Sir Ddinbych, gyda rheoli’r coetir gyda ffocws ar adfer y safle coetir hynafol yma. Mae Big Covert yn cael ei ystyried fel planhigfa ar safle coetir hynafol – mae'r cynefin wedi'i ddiraddio'n drwm oherwydd goruchafiaeth coed ffawydd anfrodorol a hefyd rhai conwydd anfrodorol fel llarwydd a sbriws. Mae'r rhywogaethau hyn o goed yn effeithio'n negyddol ar ecosystem y coetir drwy gysgodi unrhyw goed llydanddail brodorol; atal adfywiad y fflora a’r ffyngau brodorol ac, o ganlyniad, lleihau argaeledd cynefinoedd ar gyfer pryfed, adar a mamaliaid.
I'n helpu i ddechrau'r dasg o gael gwared ar y coed anfrodorol hyn yn raddol a gosod y coetir ar lwybr newydd cadarnhaol, rydyn ni wedi cael cymorth ers dechrau mis Chwefror gan y tywyswyr ceffylau, Derek Jones o Gilcain a Barbara Haddrill – a cheffylau anhygoel Barbara, Tyler a Molly, sydd wedi teithio i fyny i Faeshafn o Lanrhaeadr-ym-Mochnant yng Nghwm Tanat. Cafwyd trwydded cwympo coed ddethol gan Gyfoeth Naturiol Cymru i symud nifer o goed ffawydd o ochr y llwybr troed yng Nghoed Cerrig, un o'r ardaloedd ym mhen deheuol Big Covert. Bydd y bwlch gaiff ei greu’n cael ei ailblannu â choed llydanddail brodorol cymysg, derw yn bennaf, ond bydd hefyd yn galluogi i’r planhigion adfywio’n naturiol o eginblanhigion yr ychydig goed derw, ynn a llwyfenni llydanddail sy'n tyfu mewn mannau eraill yn y coetir.
Ceffylau yw'r dull sy’n cael ei ffafrio ar gyfer cael gwared ar goed o safleoedd coetir hynafol oherwydd eu heffaith isel ar bridd gwerthfawr y coetir, ac effaith 'crafu' fuddiol eu carnau, sy'n torri drwy’r haenau dwfn o sbwriel dail ffawydd, gan ganiatáu i olau gyrraedd llawr y coetir a hybu adfywiad planhigion coetir hynafol fel blodau’r gwynt, llygad Ebrill, suran y coed a chlychau'r gog.
Mae’r gwaith rheoli coetir yma wedi cael ei gyllido drwy Brosiect Coetiroedd ar gyfer Dŵr YNGC, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd tan fis Mehefin 2022.
Os hoffech chi wybod mwy am y prosiect neu os hoffech gael help neu gyngor gyda chreu neu reoli coetiroedd, cysylltwch â Jonathan Hulson (Rheolwr y Prosiect Coetiroedd ar gyfer Dŵr): Jonathan.Hulson@northwaleswildlifetrust.org.uk