Bu farw Llywydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, ar 7fed Chwefror ar ôl salwch byr. Dafydd Êl, yr enw y cyfeirid ato yn fynych, oedd y gwleidydd prin iawn hwnnw a oedd yn gweld iaith a diwylliant yn rhan annatod o’n hamgylchedd naturiol.
Dafydd Elis-Thomas – gwerthfawrogiad
Lord Dafydd Elis-Thomas
Yn ‘Fabi’r Tŷ’ pan gafodd ei ethol gyntaf i gynrychioli Meirionnydd yn San Steffan yn 1974, fe wnaeth gyrfa wleidyddol Dafydd rychwantu dwy genhedlaeth lawn, ac roedd yn ffigur amlwg iawn drwy gydol y cyfnod hwn.
Bu ei gyfraniad at sefydlu’r Senedd fel corff seneddol credadwy ar ôl datganoli yn aruthrol, gan arwain y corff deddfwriaethol newydd fel ei Lywydd cyntaf a defnyddio’r cyfoeth o brofiad a fagodd yn San Steffan yn effeithiol.
Roedd diddordeb Dafydd yn amgylchedd naturiol Cymru a’i wybodaeth amdano’n golygu ei fod bob amser, o safbwynt cadwraethwr, ar ochr gywir y ddadl. Roedd ei ymyrraeth a'i ddylanwad yn eang, gan ddadlau’n angerddol dros yr achosion y credai ynddynt.
Hyrwyddodd yr Her Werdd Fawr dros gynaliadwyedd cymunedol, siaradodd o blaid Cymru ddi-garbon, hyrwyddodd waith y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth a rhoddodd o’i amser i gefnogi mentrau bioamrywiaeth ledled Cymru, gan ofni canlyniadau’r dirywiad parhaus ym mywyd gwyllt Cymru.

Dafydd with Anna Williams our Education & Community Wildlife Officer at the prize-giving for our Wildlife Gardening Competition at Portmeirion in 2007 © NWWT
Un o’i weithredoedd pwysicaf dros gadwraeth natur oedd rhoi cychwyn i ymchwiliad gan Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Senedd i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer ffordd liniaru’r M4 drwy Wastadeddau Gwent. Ar y pryd, roedd Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn erbyn y cynllun hwn yn unfrydol, oherwydd yr effaith gyffredinol ar y gwlybdiroedd ac, yn arbennig, y sgil-effeithiau ar bryfed a phlanhigion yn y systemau ffosydd hynafol. Ystyriodd y Pwyllgor a oedd proses Llywodraeth Cymru, hyd at hynny, wedi pwyso a mesur yr anghenion a’r buddiannau economaidd ac amgylcheddol yn effeithiol. Daeth i’r casgliad bod pryderon amgylcheddol sylweddol, a arweiniodd yn y pen draw at y Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford, yn gwrthod y cynigion yn 2019, gan nodi’r effaith sylweddol ar Wastadeddau Gwent. Er i’r penderfyniad hwn gael ei ddathlu am ei gydnabyddiaeth i bwysigrwydd Gwastadeddau Gwent, fe’i derbyniwyd yn fwy cyffredinol fel arwydd cadarnhaol ar gyfer y dyfodol ymhlith y rhai sy’n deall pwysigrwydd sylfaenol ecosystemau gweithredol.
Bu Dafydd hefyd yn cadeirio adolygiad Tirweddau’r Dyfodol Cymru, oedd â’r nod o fwrw ymlaen ag Adroddiad cynharach Marsden ar dirweddau gwarchodedig. Fodd bynnag, fe wnaeth adroddiad yr adolygiad yn 2017 ysgogi pryderon nad oedd cadwraeth natur yn cael lle digon amlwg. Diffyg unrhyw gyfeiriad at Egwyddor Sandford – sef bod cadwraeth yn cael blaenoriaeth mewn achos o wrthdaro anghymodlon – oedd y mater dan sylw. Teimlai Dafydd fod Egwyddor Sandford yn hen ffasiwn yng nghyd-destun datblygu cynaliadwy. Ychwanegodd y ddadl a ddilynodd at argymhellion yr adolygiad, gan arwain at sefydlu Tirweddau Cymru yn 2020 fel partneriaeth o’r holl ardaloedd gwarchodedig.

Dafydd with Morgan Parry (right), our Director in the 1990’s celebrating corporate support for the Trust
Yn berfformiwr gorchestol yn y byd gwleidyddol, roedd Dafydd serch hynny yn ddyn pobl, yn hawdd siarad ag o, yn llawn hiwmor ac yn storïwr da. Mae Rachel Sharp, Cyfarwyddwr, Ymddiriedolaethau Natur Cymru (YNC), a gynrychiolodd YNC ar nifer o weithgorau a phwyllgorau gyda Dafydd, yn cofio sut byddai’n aml yn dechrau dyfynnu pennill o farddoniaeth Gymraeg o’r Oesoedd Canol, gan edrych yn ôl mewn eiliadau o ysgafnder ar ei wreiddiau academaidd a’i ddiddordebau ymchwil.
Er mai yng Nghaerdydd y treuliodd Dafydd y rhan fwyaf o’i amser ar ôl datganoli, Eryri oedd ei gartref ysbrydol bob amser ac roedd yn gwerthfawrogi’n fawr yr amser a dreuliai gartref yn Nyffryn Conwy, lle’r oedd wedi byw er pan yn blentyn.
Cydymdeimlwn â theulu Dafydd – a chofiwn am un a roddodd wasanaeth aruthrol i Gymru.
(Ysgrifennwyd gan Roger Thomas - Cyn-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, a Chadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Enfys)