Eistedd a syllu ar bowlen gyda madarch yn arnofio ynddi oedd fy nghas beth i’n blentyn. Fe fyddai’n well gen i fod wedi llwgu na chyffwrdd yn yr un ohonyn nhw! Lewis Carroll ydi’r bai i gyd am hyn … Beth bynnag, roeddwn i yn yr ysgol uwchradd cyn dechrau sylweddoli’n raddol pa mor eang oedd y deyrnas ffyngaidd – neu fod eu defnydd gan ddyn, wrth gynhyrchu popeth o ledr fegan i fara, yn dyddio’n ôl filenia.
Heddiw, rydw i wrth fy modd yn gweld madarch bach yn fy mhotiau planhigion neu flancedi o hyffa (ffilamentau canghennog sy’n creu’r corff ffyngaidd) mân gwyn yn y gwely tatws, oherwydd rydw i’n gwybod eu bod nhw’n torri’r sylwedd organig yn y pridd i lawr yn barod i blanhigion ei gymryd yn ôl i fyny. Rydw i’n deall nawr bod ffyngau ym mhob man – nid dim ond yn y pridd, ond yn yr awyr a thu mewn i bob un ohonom ni hyd yn oed! Mae rhai’n gallu goleuo yn y tywyllwch ac mae rhai’n gallu gwneud i chi weld pethau, gall rhai eich lladd chi gyda dim ond dos bychan a gall eraill gynhyrchu gwrthgorffynnau i’w defnyddio mewn meddyginiaethau, neu ddim ond blasu’n neis (honedig) ...
Roeddwn i’n ddigon ffodus i fod yn rhan o daith gerdded o dan arweiniad Cangen Wrecsam o amgylch Panorama, ger Llangollen, yn ddiweddar. Llwyddodd ein harbenigwr gwadd ni, Clive, i ddod o hyd i ffyngau bach sy’n byw oddi ar redyn hyd yn oed. Yn cael ei adnabod fel cnwp rhedyn (Typhula quisquiliaris), roedd yn anodd gweld y cyrff ffrwytho bach gyda dim ond eich llygaid – heb y rhain, byddai’r rhedyn wedi meddiannu’r mynydd cyfan. Roedd ffwng gwahanol wedi chwarae ei ran mewn creu’r cwrw oer hyfryd gefais i ei fwynhau wedyn!
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael gwybod mwy am ffyngau rhyfeddol, beth am ymuno ag un o helfeydd ffyngau’r Ymddiriedolaeth Natur yn y dyfodol? Mae fy Nghangen i yn Wrecsam yn cynnal un yng Nghastell y Waun ym mis Hydref neu, os ydi hynny ormod i’r gorllewin i chi, mae gan Gangen Dyffryn Conwy helfa ar yr un diwrnod yng Nghoedwig Gwydyr. Mae manylion llawn am y ddau ddigwyddiad ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth.
Yn olaf, mae gen i gyfaddefiad i’w wneud. Rydw i erbyn hyn yn rhyfeddu at ba mor ddiddorol, amrywiol a hanfodol ydi ffyngau, a’r ffaith na fyddai bywyd hebddyn nhw’n bosib, felly mae fy mharch a fy rhyfeddod i’n cynyddu bob blwyddyn. Ond dydi rhai pethau byth yn newid. Dydw i dal ddim yn gallu bwyta madarch – ych!