Profodd ddydd Sadwrn 27ain Mawrth yn ddiwrnod emosiynol iawn i dîm ieuenctid YNGC, wrth iddynt ddweud annwyl-ffarwel i “Ein Glannau Gwyllt” prosiect sydd wedi galluogi’r Ymddiriedolaeth ail-gysylltu nifer o bobl ifanc ar draws Gogledd Cymru gyda llefydd gwyllt ers i’r prosiect ddechrau yn Haf 2016.
Prif bwrpas y prosiect oedd i helpu meithrin y genhedlaeth nesaf o warchodwr yr amgylchedd ac mynd a gwaith yr Ymddiriedolaeth i gynulleidfa rydym, yn y gorffennol, wedi ymdrechu gyrraedd ond heb fawr o lwc. Wrth adeiladu ar eu ymrwymiad hefo’r pobl ifanc a phrif egwyddorion Y John Muir Award (Darganfod, Archwilio, Gwarchod, Rhannu), roedd hyn yn galluogi’r tîm i oresgyn llawer o’r rhwystrau sydd yn nodweddiadol o arbed pobl ifanc gysylltu eu hunain mewn gweithgareddau pro-gadwriaethol, ac roeddent yn medru gweithio hefo phobol ifanc o nifer o gefndiroedd gwahanol. O snorclo i arfordira i dynnu rhedyn a lobïo llywodraeth leol – dyma waith y prosiect, ac yn y diwedd fe gysyllter â’n agos i 2,000 o bobl ifanc – gyda nesaf peth i 600 ohonynt yn mynd ym mlaen i ymrwymiad hir-dymor (3 mis +).