Gwrychoedd yr ardd sydd o dan sylw mawr yr adar adeg yma o’r flwyddyn….ac fe ddylasem eu clodfori, hefyd! Mae’r gwrychoedd hyn yn ymestyn ar hyd a lled y wlad fel rhwydwaith o briffyrdd naturiol, yn galluogi i greaduriaid symud ar eu hyd tra’n cynnig lloches a chyflenwad bwyd hanfodol megis aeron, cnau, hadau ac ambell i drychfilyn sydd dal o gwmpas.
A hithau ’n dymor defnyddio planhigion gwreiddyn noeth, y nawr yw’r amser i chi fynd ati i blannu gwrych. Mae brigau ifanc o gyll, draenen wen a du, masarnen fach a ffawydden yn creu asgwrn cefn cryf gyda ychwanegiad o ambell i blanhigyn celyn, ysgawen neu gwifwrnwydd y gors i lenwi unrhyw wagle pellach. Mae’r amrywiaeth yma o rywogaethau yn creu cynefin llawer gwell na gwrych sy’n tyfu’n gyflym fel cypreswydd Leylandii neu llawryf ….cofiwch, Yn ara’ deg mae dal iâr!
Cerwch ac ambell i frigyn o gelyn i mewn i’r tŷ i ddathlu rhyfeddodau natur tros y Nadolig. Torrwch ambell i frigyn cyll a ffurfiwch siâp seren gyda chortyn i’w hongian rhwng y llenni yn y tŷ. Ewch am dro i’r goedwig i gasglu moch coed a’i rhoi nhw mewn powlen ar y bwrdd, neu ei rhwymo fel coronbleth hyfryd uwchben y tan.