Dim ots beth yw eich oedran mae’n bwysig cysylltu â natur a threulio amser yn yr awyr agored. Nid yn unig i wella eich lles meddyliol a chorfforol, ond i ddeall o ble mae hanfodion bywyd, fel bwyd, yn dod.
Mae Ysgol Gyfun Llangefni, yng nghalon Ynys Môn, yn arloesi gyda Chwricwlwm Cenedlaethol newydd Cymru sy’n rhoi’r cyfle i ysgolion ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain a mynd y tu hwnt i addysgu safonol. Un elfen arwyddocaol o hyn yw datblygiad eu cwricwlwm awyr agored i flwyddyn 7 sy’n mynd â’r dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth i roi profiad ymarferol i’r disgyblion yn eu gwersi garddio wythnosol - ac addysgu’r genhedlaeth nesaf o fodiau gwyrdd!
Mae ein prosiect Sefyll Dros Natur Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r ysgol i ddatblygu hen gae pêl droed yn ofod gwyrdd llewyrchus, gydag ardaloedd ar gyfer bywyd gwyllt, parthau tyfu, gardd synhwyraidd a micro-fforest lle mae 500 o goed wedi cael eu plannu. Fel rhan o’r bartneriaeth hon, nod yr ardd yw bod yn garbon-niwtral, gan alluogi disgyblion i ddysgu am newid hinsawdd a phwysigrwydd byw yn gynaliadwy. Mae hefyd yn gobeithio bod yn gaffaeliad i gymuned ehangach Llangefni, oherwydd cynhaliwyd diwrnod agored i roi cyfle i aelodau’r cyhoedd weld y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud yma gan y disgyblion a chynhaliwyd gweithgorau wythnosol i ymgysylltu â phobl leol.