Cors Marchwiel wedi’i hadfer!
Yn gynharach yn ystod y flwyddyn aeth prosiect Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam ati i adfer Cors Marchwiel ger Wrecsam.
Yn gynharach yn ystod y flwyddyn aeth prosiect Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam ati i adfer Cors Marchwiel ger Wrecsam. Dyma safle sydd â llwybr pren, dôl wlyb, coed helyg tal a chyrs. Arferai fod â phyllau oedd yn enwog am eu madfallod dŵr cribog; rhywogaeth flaenoriaeth yn lleol ac yn ehangach ledled Cymru. Mae gan ranbarth Wrecsam un o’r poblogaethau mwyaf o’r rhywogaeth yn Ewrop gyfan. Mae’r madfallod hyn wedi’u nodweddu gan eu maint mawr, a’u croen tywyll, lympiog, eu bol oren gyda smotiau a hefyd y ‘grib’ fel mae’n cael ei galw sy’n rhedeg i lawr asgwrn cefn y gwrywod, sy’n gwneud iddyn nhw edrych fel deinosoriaid bychain!
Nid oedd unrhyw un wedi cyffwrdd yn y pyllau am flynyddoedd ac roedd eu haddasrwydd ar gyfer y madfallod dŵr yn lleihau wrth i amser fynd heibio.
Am wythnos roedd cloddiwr ar y safle, yn gweithio ar gynllun i greu pyllau o ddyfnderoedd amrywiol. Roedd gan y pyllau i gyd ymylon serth fel bod posib i anifeiliaid ddod allan o’r dŵr pan maent yn sychu rhywfaint yn yr haf. Cafodd dau bwll arall eu hadfer i fanylder tebyg a chloddiwyd pwll newydd sbon, gan gynyddu’r cyfleoedd i’r madfallod dŵr fagu’n llwyddiannus. Nid oedd hwn yn waith hawdd o gwbl a bu bron i’r cloddiwr fynd yn styc yn y mwd un diwrnod, gan fod cymaint o slwtsh yn dod o’r cyrs yn pydru.
Cafwyd ymweliad gan dîm gwirfoddoli’r Ymddiriedolaeth Natur a chafwyd diwrnod cynhyrchiol iawn yn trwsio’r llwybr pren ac yn torri’r egin-goed helyg oedd yn ymledu. Roedd yn achos o sawl pâr o ddwylo’n well nag un ac mae’n dangos pa mor bwysig yw ein gwirfoddolwyr gwych ni i gadwraeth natur. Un cyffyrddiad terfynol oedd ychwanegu cynefin nythu artiffisial ar gyfer y madfallod dŵr er mwyn ychwanegu at ychydig o lystyfiant oedd ar ôl ym mhob pwll. Gwnaed hyn drwy rwygo bag bin yn ddarnau a’i glymu ar ffon i’w roi yn y dŵr dyfn; ateb syml nes bod yr holl blanhigion yn y pwll yn tyfu’n ôl, gyda bonws ychwanegol o edrych fel môr-leidr wrth ei osod yn ei le!
Ar ôl gwneud hyn i gyd, cafodd y gymuned leol wybod am y gwaith ac roedd posib i bobl ymweld â’r tir gwlyb eto. Roedd teuluoedd yn gallu mwynhau’r llwybr pren yn awr, a gweld yr hwyaid a bras y cyrs, a mwynhau’r agwedd agored a diogel oedd wedi’i chreu. Mae’r sylwadau hyd yma wedi bod yn hyfryd, gan bobl oedd ddim yn gwybod bod y gors yn bodoli hyd yn oed, ac eraill yn dweud bod ei chyflwr wedi dirywio’n fawr ond ei bod bellach yn lle gwych i ymweld ag o ar garreg eu drws.
Gyda’r cyfyngiadau symud oherwydd y Coronafeirws Covid-19, dim ond os yw’n ddiogel i chi ymweld ddylech chi wneud hynny, fel rhan o’ch ymarfer dyddiol. Bydd byd natur yn parhau yn union fel mae wedi gwneud erioed.
Mae’r prosiect yma wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 – Cynllun Rheolaeth Gynaliadwy, sy’n cael ei chyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu i wneud gwahaniaeth positif i fyd natur, a chreu tirweddau sy’n edrych yn atyniadol ar yr un pryd, cysylltwch â ni i wirfoddoli neu weithio gyda ni ar eich tir.