Cofnododd un o gefnogwyr ffyddlon YNGC, Andrew Graham, y rhywogaeth hon am y tro cyntaf ar y safle a thynnu’r llun yma (o fenyw newydd fwrw ei chroen) ganol mis Mai – dyma hefyd y cofnod cyntaf ar gyfer yr ardal ehangach ers 1976. Credid fod y rhywogaeth hon, sy’n cael ei chamgymryd yn aml am y fursen gynffonlas (Ischnura elegans) fwy cyffredin, wedi diflannu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae’n dal i gael ei dosbarthu fel rhywogaeth genedlaethol brin. Mae’n ffafrio tir wedi’i figno neu dir y mae tarfu arno, felly mae angen pori, torri a /neu darfu mecanyddol er mwyn cynnal amodau agored addas. Rydyn ni’n ddiolchgar i’n porwr lleol, Peter Jones, am ddal ati i bori’r safle’n ysgafn ac yn sensitif gyda gwartheg duon Cymreig – ac i’n holl aelodau am ein helpu ni i gynnal Traeth Glaslyn drwy gyfrwng eu cefnogaeth ariannol.
Beth am ymweld ag un o’n gwarchodfeydd natur a chwilio am fursennod yr haf yma? Fel mae’n digwydd, cofnodwyd y fursen gynffonlas fechan yn ein gwarchodfa natur mwyaf newydd hefyd, Chwarel Minera, am y tro cyntaf yn ôl yn 2016 – does dim rhaid i chi deithio’n bell bob amser i ddod o hyd i rywogaeth brin! I gyfrannu ymhellach at ein gwaith cadwraeth, gallech hefyd ystyried cyflwyno eich cofnodion i’n Canolfan Cofnodion Lleol, Cofnod (www.cofnod.org.uk).
I gael y newyddion diweddaraf am weision y neidr yn lleol a rhannu’r hyn rydych chi’n ei ddarganfod, digwyddiadau, ffotograffau, cerddi, cartŵnau neu ddolenni at fideos, tanysgrifiwch i Gylchlythyr Gweision y Neidr Gogledd Cymru, ‘Y Fursen’, drwy anfon eich cyfeiriad e-bost at y cofnodwr yng Ngogledd Cymru, Allan Brandon, ar allanrowenconwy@sky.com.