Cafodd ei fagu ym Mhrestatyn a dechreuodd astudio Coedwigaeth yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1953 gan ymuno â Grŵp Adar Bangor a dechrau cyfrif adar gwyllt ar lynnoedd ac aberoedd Ynys Môn. Aeth ei waith gydag adar ag ef i arsyllfa adar ar Fair Isle wedyn, a’r Camargue, cyn dychwelyd i Ogledd Cymru lle daeth yn Warden Cwninger Niwbwrch ar gyfer Nature Conservancy yn 1960. Yno datblygodd gyfeillgarwch gyda’r artist bywyd gwyllt, Charles Tunnicliffe, gan ddarganfod adar newydd farw ar y traethau iddo eu defnyddio ar gyfer ei ddarluniau a’i baentiadau.
Teyrnged i Peter Hope Jones
Symudodd i Feirionnydd i fod yn gyfrifol am naw Gwarchodfa Natur Genedlaethol, gan sefydlu hefyd ein hymgyrch i sicrhau gwarchodfa natur Traeth Glaslyn. Wedyn treuliodd amser fel ecolegydd adar môr, yn arolygu yn Llydaw ac Ynysoedd Erch, gan gynnwys arolygu effeithiau llongddrylliadau’r Amoco Cadiz a Christos Bitas. Roedd yn caru Ynys Enlli gydol ei oes, gan olygu Adroddiad yr Arsyllfa Adar yno am bron i 30 o flynyddoedd, ac ysgrifennu “The Natural History of Bardsey”, a “Between Sea and Sky”, (casgliad o ffotograffau ynysoedd Peter a phob un â dyfyniad o farddoniaeth ei gyfaill R.S. Thomas, Ficer Aberdaron).
Erbyn diwedd y 1980’au, rhoddodd salwch derfyn ar ei deithiau corfforol yn anffodus ond, yn 1990, cyflwynodd draethawd hir Meistr ar ymarferoldeb creu bas data o fywyd gwyllt ar gyfer Cymru. Drwy rôl newydd gyda’r Nature Conservancy Council fel Ecolegydd Monitro, cefnogodd YNGC i sefydlu safle monitro ffotograffiaeth sefydlog mewn sawl gwarchodfa natur sy’n eiddo i ni. Wedyn, fel rhan o’i ymddeoliad cynhyrchiol, ysgrifennodd “Contribution to the Flora of Bardsey” gydag Ian Bonner, a “Birds of Anglesey, Adar Môn” gyda Paul Whalley. Gadawodd waddol real iawn i YNGC gyda chyfraniad hael iawn yn galluogi i ni glirio eithin o estyniad sydd wedi’i sicrhau’n ddiweddar i warchodfa natur Mariandyrys, ac mae llawer o blanhigion rhostir calchfaen yn ffynnu nawr.