O’r dylluan enwog yng ngwaith A.A. Milne i dylluan yr eira sy’n cludo llythyrau i J. K. Rowling, mae tylluanod wedi dod yn symbolau eiconig mewn diwylliant Prydeinig. Maent nid yn unig i’w gweld yn aml mewn llyfrau a ffilmiau ond hefyd yn rhywogaethau allweddol yn ein coetiroedd ni ac ar dir agored! Yn ogystal â bod yn elfen gyfarwydd yng nghefn gwlad, mae’r adar ysglyfaethus yma sy’n gweld popeth yn arwydd gwych hefyd o boblogaethau o famaliaid bach. Mae astudio peledi tylluanod am esgyrn a phenglogau’n rhoi syniad i ecolegwyr am ddosbarthiad poblogaethau o chwistlod a llygod o bob math. Ac nid dim ond ecolegwyr ac adaregwyr sy’n hoffi eu talentau crafangog - mae tylluanod o fudd enfawr i’r gymuned amaethyddol hefyd, gan helpu i leihau difrod i gnydau gan famaliaid bach.
Mae ein gwarchodfeydd natur yn gynefinoedd hanfodol i lawer o dylluanod Prydain. O’r tylluanod wen â’u llygaid llachar yng Ngwaith Powdwr a Chors Goch i’r tylluanod clustiog cyfrinachol ar Draeth Glaslyn ac ym Morfa Bychan, mae’r adar yma sy’n hedfan yn dawel yn nodwedd amlwg yn ein tirwedd. Beth am chwilio am eich canllawiau adnabod tylluanod a mynd am dro i’ch gwarchodfa leol i weld pa rai allwch chi eu gweld? Gallech gyfrannu at wyddoniaeth y dinesydd hyd yn oed – ewch i wefan y BTO i ymuno â ‘Project Owl’ a helpu cadwriaethwyr i wneud gwahaniaeth er lles tylluanod brech. Ond cofiwch, wrth chwilio am dylluanod bach yng Nghemlyn neu dylluanod brech yng Nghoed y Felin, bydd yr adar yma â’u llygaid fel sbienddrych wedi’ch gweld chi ymhell cyn i chi eu gweld nhw fwy na thebyg!