Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo dychwelyd afancod i Gymru

Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo dychwelyd afancod i Gymru

Llywodraeth Cymru yn cefnogi ailgyflwyno afancod Ewropeaidd yng Nghymru dan reolaeth.

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn cefnogi symud tuag at ailgyflwyno afancod dan reolaeth yng Nghymru. 

Dywedodd Tim Birch, Uwch Reolwr Polisi ac Eiriolaeth ar gyfer Ymddiriedolaethau Natur Cymru:

“Mae hyn yn newyddion gwych gan Lywodraeth Cymru – ni all ddigwydd yn ddigon cyflym. Mae'n hanfodol ein bod ni’n dod ag afancod yn ôl i Gymru fel mater o frys. Mae'r argyfyngau natur a hinsawdd yn gwaethygu bob dydd gyda rhybuddion am lifogydd yn digwydd yn rheolaidd ledled Cymru. Gall afancod helpu i ddarparu ateb naturiol i lygredd dŵr ac i’r llifogydd sy’n ddinistriol i gartrefi a busnesau. Maen nhw’n rhywogaeth anhygoel sy'n creu gwlybdiroedd, drwy eu hargaeau, sy'n storio glawiad yn y dirwedd ac yn rhyddhau dŵr yn araf pan fydd y glaw wedi cilio. Mae'r gwlybdiroedd yma’n llecynnau anhygoel ar gyfer ystod eang o fywyd gwyllt."

“Mae gwledydd eraill ar draws Ewrop wedi cofleidio’r manteision a ddaw yn sgil afancod ac mae’n hen bryd i Gymru wneud yr un peth. Dangosodd astudiaeth y llynedd fod bron i 90% o bobl Cymru yn cefnogi afancod yn dychwelyd i’r gwyllt yma – mae’n wych gweld Llywodraeth Cymru yn cydnabod cefnogaeth gyhoeddus mor aruthrol. Nawr mae angen gweithredu ar lawr gwlad i gael afancod gwyllt yn ôl i'n tirweddau ni, ac yn gyflym.”

Mae Prosiect Afancod Cymru wedi bod yn ymchwilio i ymarferoldeb ailgyflwyno afancod i Gymru ers 2005, ac mae hyn wedi cynnwys darganfod beth yw barn pobl am afancod yng Nghymru. Mae llawer iawn o waith ymgysylltu â’r cyhoedd wedi’i wneud dros yr 20 mlynedd diwethaf – yn fwyaf diweddar, yng ngwanwyn 2023, cynhaliwyd yr arolwg ar-lein cyntaf ar gyfer Cymru gyfan. Roedd yn dangos cefnogaeth hynod gadarnhaol i ddod ag afancod yn ôl i Gymru. Edrychwch ar y canlyniadau: Afancod yng Nghymru, beth yw eich barn CHI?.

Ar un adeg roedd afancod yn gyffredin ledled Cymru, ond oherwydd gorhela gan bobl am eu ffwr, eu cig a’u chwarennau arogl, wynebu difodiant oedd eu hanes ar ôl yr Oesoedd Canol yng Nghymru ac erbyn diwedd yr 16eg ganrif roeddent wedi diflannu o weddill Prydain. Mae afancod yn anifeiliaid arbennig iawn oherwydd eu bod yn chwarae rhan hanfodol wrth gyfoethogi bioamrywiaeth drwy adfer a rheoli ecosystemau afonydd a gwlybdiroedd. Maen nhw’n cael eu hadnabod fel ‘rhywogaeth allweddol’ oherwydd bod eu gweithgareddau’n gallu bod o fudd i ystod eang o anifeiliaid a phlanhigion eraill sy’n byw mewn afonydd a gwlybdiroedd. Mae afancod yn cael eu hadnabod fel peirianwyr byd natur. Maen nhw’n gwneud newidiadau i'w cynefinoedd sy'n creu gwlybdiroedd amrywiol er mwyn i rywogaethau eraill ffynnu.

Beaver mother and kits

© Mike Symes Devon Wildlife Trust

Darllenwch ein gweledigaeth ni ar gyfer dychweliad afancod

Darllenwch mwy