Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn galw am feddwl o’r newydd am argyfwng natur y wlad

Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn galw am feddwl o’r newydd am argyfwng natur y wlad

Mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddifodiant! Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau ystyrlon sydd wedi'u cyllido'n dda os ydyn ni am wyrdroi colledion byd natur.

Mae sylwadau YNC yn dilyn cyhoeddi adroddiad heddiw gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd “Atal a gwyrdroi colli byd natur erbyn 2030”.

Mae YNC yn cydnabod, er bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, ei bod yn briodol bod Pwyllgor y Senedd yn tynnu sylw at fethiant Llywodraeth Cymru i bennu – a dangos sut i gyrraedd – targedau hanfodol.

Dywedodd Rachel Sharp, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru:Er bod gan Lywodraeth Cymru rywfaint o ddeddfwriaeth amgylcheddol flaengar, nid yw hyn wedi arwain at newid cadarnhaol i fyd natur ledled Cymru.

“Er bod cynigion ar gyfer mwy o ddeddfwriaeth amgylcheddol yn cael eu croesawu, ni fydd hynny’n golygu dim byd i’n byd natur ni os na welwn ni weithredu ar lawr gwlad – ar raddfa a chyflymder – i wyrdroi colledion byd natur. Rydyn ni’n dal i orfod atal colli byd natur drwy gynigion fel ffermydd gwynt newydd ar fawndiroedd.

“Mae angen cyllido’r camau gweithredu’n ddigonol hefyd ar draws y Llywodraeth. Mae hyn yn fater o frys gan fod byd natur mewn trafferthion difrifol yng Nghymru ac yn parhau i ddirywio. Mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddifodiant.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn flaenorol i atal a gwyrdroi colli byd natur erbyn 2030 drwy gytundebau a wnaed yng Nghynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig yn 2022, sef COP15. Mae'r cytundeb hwn yn cynnwys sicrhau bod 30% o’r tir, y môr a’r dŵr croyw yn cael eu rheoli'n effeithiol ar gyfer byd natur erbyn 2030. Mae'n cynnwys targedau eraill i leihau colli bioamrywiaeth, gan gynnwys lleihau maetholion a phlaladdwyr niweidiol 50% o leiaf.

Fodd bynnag, mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn pryderu nad oes eglurder ynghylch faint o’r targedau fydd yn cael eu cyflawni. Mae hyn yn peri pryder

arbennig o ystyried mai dim ond pum mlynedd sydd gennym ni i fynd erbyn hyn i gwrdd â’r terfyn amser y cytunwyd arno, sef 2030.

Er bod trafodaethau wedi cael eu cynnal ar sut i weithredu’r targedau hyn ar y tir, ychydig o gynnydd sydd wedi bod o ran eu cyflawni mewn amgylcheddau morol a dŵr croyw. Mae YNC yn amcangyfrif mai dim ond 6% o’r tir a llai na 5% o'r môr sy'n cyfateb i'r gofynion hyn. Mae llawer o waith i’w wneud ac ar hyn o bryd does dim tystiolaeth o’r cynllunio sydd ei angen i sicrhau adferiad byd natur.

Y meysydd sy’n peri pryder yw: 

  • Nid yw awdurdodau lleol wedi derbyn unrhyw ganllawiau ar sut i gyrraedd y targed ar gyfer lleihau’r defnydd o blaladdwyr erbyn 2030.
  • Nid oes cynllun clir ar gyfer y gostyngiad o 50% mewn maetholion niweidiol. Er enghraifft, nid oes gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) sy’n cael ei ddatblygu unrhyw dargedau hyd yma i leihau dŵr ffo maetholion o weithgareddau amaethyddol i'r amgylchedd dŵr.
  • Mae ein hafonydd ni’n parhau i fod yn llygredig ac mae angen cryfhau’r un darn o ddeddfwriaeth, sef y Rheoliadau Llygredd Dŵr (Cymru) hollbwysig, er mwyn lleihau dŵr ffo o ffermydd.
  • Mae'r Bil Egwyddorion Amgylcheddol, Llywodraethu a Bioamrywiaeth i fod i fynd i'r afael â cholli byd natur a chryfhau’r gyfraith amgylcheddol. Er mai’r bwriad yw y bydd hyn yn dod yn gyfraith cyn diwedd y Senedd hon yn 2026, nid oes unrhyw eglurder ynghylch union amserlen y bil hwn na’r targedau y bydd yn eu cynnwys.

 

Asesodd adroddiad Graddfa Angen diweddar gan Ymddiriedolaethau Natur Cymru, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol y buddsoddiad hirdymor sydd ei angen mewn ffermio cyfeillgar i fyd natur a’r hinsawdd i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur sy’n gwaethygu. Canfuwyd y canlyno:

  • Mae cynyddu buddsoddiad Cymru i £594 miliwn y flwyddyn yn hanfodol i gyllido ffermwyr i fynd i'r afael â'r ddau argyfwng yma. Mae gweithredu effeithiol i atal ac adfer byd natur ar ffermydd yn hollbwysig o ystyried bod bron i 90% o Gymru’n cael ei ffermio.
  • Mae angen i ffrydiau cyllido i fynd i'r afael â'r argyfwng natur gael eu cydgysylltu ar draws pob sector o'r Llywodraeth. Un enghraifft dda yw cyllid yn y dyfodol ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) lle na fydd y cyllidebau presennol ac yn y dyfodol yn ddigonol o hyd.
  • Dylai cyllid o feysydd eraill, fel y cyllid i fynd i’r afael â llifogydd a newid hinsawdd, fod ar gael i ffermwyr, er enghraifft, ar gyfer adfer mawndiroedd a chreu gwlybdiroedd, naill ai dros dro neu’n barhaol, ar orlifdiroedd a fydd yn helpu i liniaru rhag llifogydd, yn ogystal â chreu cynefin i fywyd gwyllt ffynnu.

 

Dywedodd Tim Birch, Uwch Reolwr Polisi ac Eiriolaeth gydag Ymddiriedolaethau Natur Cymru: Rydyn ni’n cydnabod bod cyllid y Llywodraeth o dan bwysau mawr, felly rydyn ni’n ceisio gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu buddsoddiad newydd drwy gyllid gwyrdd lle mae cyfle sylweddol.

“Rydyn ni angen y buddsoddiad yma ar gyfer atebion sy’n seiliedig ar natur i fynd i’r afael ag effeithiau cynyddol newid hinsawdd. Er enghraifft, mae buddsoddi mewn adfer mawndiroedd nid yn unig yn creu cynefin bywyd gwyllt, ond hefyd yn storio carbon ac, yn bwysig, yn gallu lliniaru rhag llifogydd. Mae pawb ar eu hennill o ran gwarchod pobl a bywyd gwyllt a gallai greu ffrydiau incwm newydd i ffermwyr, sy’n hollbwysig. Mae’n amser i Lywodraeth Cymru feddwl o’r newydd yn ein hinsawdd ni sy’n newid.”