Mae ei daeareg gymhleth a’i chyfoeth o gynefinoedd yn gwneud Cors Goch, ar Ynys Môn, yn un o warchodfeydd natur mwyaf amrywiol Cymru. Mae’n gartref i lawer o blanhigion prin y gwlybdir, gan gynnwys rhywogaethau pryfysol, a chasgliad o degeirianau. Mae grug, eithin a’r fioled welw brin yn ffynnu ar y rhostir asidig ac, wrth i’r haf fynd rhagddo, mae llygad-llo mawr a melog y cŵn yn britho’r caeau bychain, caeedig yng nghanol y glaswelltau sych.
Mae’r amrywiaeth ragorol yma o blanhigion yn gartref i amrywiaeth yr un mor ragorol o infertebrata ac mae glöynnod byw Cors Goch yn cynnwys y copor bach cyfarwydd, y glesyn cyffredin a’r gwyn blaen oren. Hefyd efallai y byddwch yn dod ar draws y fritheg berlog fach swil – mae nawr yn amser da i’w gweld, a chofiwch ddweud wrthym ni beth rydych chi wedi’i weld!