Bocsys adar
Mae’n bur debyg mai adar yw’r ymwelwyr rydym yn sylwi fwyaf arnyn nhw yn ein gerddi, ond mae rhai rhywogaethau fel adar y to a gwenoliaid y bondo yn dod yn gynyddol brin oherwydd colli cynefinoedd ac afiechyd. Er hynny, mae sawl cam gweithredu y gallwch chi eu rhoi ar waith gartref i helpu adar i ffynnu yn eich gardd chi.
Dewis y bocs addas
Bydd gwahanol fathau o focsys yn denu gwahanol rywogaethau. Mae’r rhan fwyaf o adar yn ffafrio bocs caeedig gyda thwll mynediad bychan, ond mae rhai – fel y robin goch, y dryw, yr aderyn du a’r fronfraith – yn defnyddio bocs ffrynt agored. Mae rhywogaethau fel gwenoliaid duon, gwenoliaid a gwenoliaid y bondo angen bocs arbenigol gan eu bod yn nythu o dan fargodau a thalcenni adeiladau.
Sut i greu bocs mewn 8 cam
Creu eich bocs nythu eich hun
Bydd arnoch angen y canlynol: Pren meddal heb ei blaenio na’i drin ac wedi’i dorri yn arw, rwber sgrap, hoelion wedi’u galfaneiddio, llif, morthwyl, dril, pensil a phren mesur.
- Marciwch y panelau gyda phensil a phren mesur i’r dimensiynau sydd wedi’u nodi uchod.
- Torrwch y panelau.
- Penderfynwch ar faint y twll mynediad.
- Hoeliwch y panelau ochr ar y plât cefn.
- Hoeliwch y llawr yn ei le, sy’n ffitio tu mewn i’r panelau ochr.
- Hoeliwch y panel ffrynt ar y panelau ochr.
- Driliwch y tyllau draenio yn y gwaelod.
- Gosodwch banel y to yn ei le gyda rwber neu golfach arall.
Dewisol:
Gwnewch yn siŵr bod y bocs yn dal dŵr gyda haenen ychwanegol o ffelt toi neu haenen atal lleithder
Gosod eich bocs nythu yn ei le
Gosodwch eich bocs mewn lleoliad cysgodol ar goeden neu wal, yn wynebu tua’r gogledd ddwyrain i’r de ddwyrain, i osgoi’r tywydd gwlyb a’r gwers canol dydd mwyaf. Gwnewch yn siŵr bod eich bocs o leiaf 2 fetr oddi ar y ddaear ac allan o gyrraedd ysgyflaethwyr.
Hylendid a chynnal a chadw’r bocs nythu
Rhaid cael gwared ar hen nythod yn yr hydref a golchi’r bocs gyda dŵr sebon cynnes i ladd unrhyw barasitiaid sy’n weddill a gadael i’r bocs sychu’n drwyadl cyn cau’r caead. Os nad oes unrhyw dyllau draenio ynddo, dyma’r amser i ddrilio rhai yn y gwaelod.
Ni ddylid defnyddio pryfladdwyr na phowdwr pryfed. Mae’n eithaf normal i ambell ŵy fethu deor ac i rai cywion farw.
Os ydych chi’n addurno’r bocs, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio paent seiliedig ar ddŵr ac nid plwm neu greosot, oherwydd mae’r rhain yn wenwynig i adar. Os ydych chi angen newid rhan o’r bocs adar, rhaid osgoi pren sydd wedi’i drin, sy’n cynnwys cadwolion a ffyngladdwyr niweidiol.
Teclynnau bwydo adar
Bwydo adar
Teclyn neu fwrdd bwydo adar yw un o’r ffyrdd hawsaf o ddenu adar i’ch gardd, yn enwedig dros fisoedd y gaeaf pan mae’n anodd dod o hyd i fwyd. Er hynny, bydd deall mathau o fwyd ac arferion bwydo’n eich helpu chi i ddenu amrywiaeth o rywogaethau. Gall gymryd cymaint ag ychydig fisoedd i adar ymweld â theclyn bwydo newydd.
Mathau o fwyd a theclynnau bwydo
Defnyddiwch declynnau bwydo yn hongian neu fwrdd adar. Mae diagram ar gael isod yn dangos sut i greu un eich hun.
Cofiwch lanhau’r bwrdd adar a’r teclynnau bwydo yn rheolaidd i osgoi lledaenu afiechydon ymhlith adar yr ardd.
Mae gwahanol fwydydd yn denu gwahanol adar felly blaswch amrywiaeth o fwydydd fel cymysgedd o hadau i adar gwyllt, hadau niger, pysgnau a pheli braster. Mae’n hwyl gwneud eich teclynnau bwydo hadau adar a braster.
Ewch ati i greu nodwedd arbennig gan ddefnyddio pyst hongian i osod eich teclynnau bwydo arnyn nhw.
Os yw’n bosib, gosodwch y teclynnau bwydo yn agos at ffenest i gael mwynhau gweld yr adar, ac mewn ysgol, yn agos at ffenest ystafell ddosbarth fel bod y plant yn gallu gwylio o’r tu mewn heb darfu ar yr adar.
Rhaid osgoi gosod teclynnau bwydo o fewn cyrraedd rhwydd i ysglyfaethwyr, fel cathod, drwy sicrhau nad ydynt yn rhy isel, nac o fewn cyrraedd canghennau neu ffensys.
Creu eich bwrdd adar
Gallwch greu bwrdd adar syml gan ddefnyddio pren haenog ar bolyn gyda cholfachau metel. Bydd ymyl o amgylch y bwrdd yn atal bwyd rhag mynd dros yr ochr, a bydd bylchau yn y corneli’n darparu draeniad.
Bwyd byw a bwydo ar y ddaear
Mae llawer o adar yr ardd yn bwydo ar y ddaear yn bennaf. Mae’r rhain yn cynnwys aderyn y to, bronfraith, turtur dorchog, robin goch a llwyd y gwrych. Mae’r robin yn hoff iawn o gynrhon y blawd byw, sydd â llawer o fraster a phrotein. Mae’n well bwydo’r adar yma i gyd o fwrdd adar – mae gwybodaeth am sut i greu un ar gael isod.
Planhigion a phryfed
Dewiswch amrywiaeth o blanhigion cyfeillgar i bryfed peillio a phryfed eraill ar gyfer eich gardd, i ddenu cymaint â phosib o bryfed ac infertebrata eraill, sy’n ffynhonnell fwyd naturiol ac yn cael ei ffafrio gan adar.
Dewiswch blanhigion a choed gydag aeron a hadau ar gyfer adar. Er enghraifft, coed fel drain gwynion, eiddew, afalau surion, criafol, celyn a cheirios gwyllt a llwyni a phlanhigion fel llosgddrain, pren melyn a chribau’r pannwr.
Beth na ddylech ei fwydo
Peidiwch â rhoi bwyd hallt na bara sych allan oherwydd gall hyn fod yn niweidiol i adar. Hefyd dylech osgoi braster coginio gan fod y rhain yn glynu wrth blu adar ac yn lloches i facteria. I osgoi gwenwyn bwyd, gwnewch yn siŵr mai dim ond cynrhon y blawd byw ydych chi’n eu darparu, oni bai eu bod wedi cael eu sychu, a pheidiwch â rhoi pysgnau llawn allan, gan eu bod yn berygl tagu i adar.