Arferai’r Afanc Ewrasiaidd (Castor fiber) fod yn eang eu dosbarthiad ledled Cymru ond, oherwydd gorhela gan pobl am eu ffwr, a’u cig, diflannu fu eu hanes ar ôl yr Oesoedd Canol yng Nghymru. Tan y degawdau diweddar, felly, roedd y gair ‘afanc’ yn cael ei gysylltu â’r gorffennol yn aml – mae posib gweld cyfeiriadau atynt mewn enwau llefydd (fel Llyn-yr-Afanc) ac mewn llen gwerin, fel y straeon am Afancod enwog Afon Conwy a Llyn Llangors, sy’n sôn am y bwystfilod dŵr dychrynllyd oedd yn bwyta nofwyr ac yn achosi llifogydd. Fodd bynnag, mae’r oes yn newid ac efallai ni fydd yr afanc yn anifail wedi’i gyfyngu i chwedloniaeth a hanes mwyach.
Afancod – Cymru y gorffennol a'r dyfodol?
Darganfod mwy am afancod a darllen yr adroddiad arolwg llawn yma.
Yn wahanol i’r bwystfilod chwedlonol, mae afancod go iawn yn anifeiliaid pwysig. Maent yn chwarae rhan hanfodol mewn cyfoethogi bioamrywiaeth, gan adfer a rheoli ecosystemau tir gwlyb. Mae afancod yn cael eu hadnabod fel ‘rhywogaethau allweddol’ gan fod eu gweithgarwch yn gallu bod o fudd i amrywiaeth eang o anifeiliaid eraill a phlanhigion sy’n byw mewn cynefinoedd tir gwlyb. Hefyd gall gweithgarwch afancod helpu i wella ansawdd dŵr, rheoleiddio llif, lliniaru llifogydd i lawr yr afon, sefydlogi lefelau trwythiad a lleihau erydiad mewn afonydd. Gan fod pobl yn hoffi gweld afancod, gallant fod o fudd hefyd i dwristiaeth, gan helpu i gefnogi’r economi leol.
Mae afancod wedi cael eu hailgyflwyno’n llwyddiannus eisoes i fwy na 28 o wledydd yn Ewrop. Yma, mae Prosiect Afancod Cymru yn gweithio i ailgyflwyno afancod gwyllt yn rhan o dirwedd Cymru. Gweithio mae Prosiect yr Afanc Cymreig i weld afancod gwyllt yn ail sefydlu eu hunain yng Nghymru unwaith eto. Yn arwain Prosiect yr Afanc Cymreig mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar ran Ymddiriedolaethau Natur yng Nghymru.