Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam - Darganfod

Hare

Hare © David Tipling 2020 Vision

Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam

Llesol i fywyd gwyllt

Ymweld, archwilio a darganfod mwy am ymwneud â chadwraeth bywyd gwyllt trefol

Yn un o stadau diwydiannol mwyaf Ewrop mae amrywiaeth ryfeddol o fywyd gwyllt yn byw sydd angen ein help ni. Mae ein gwaith ni’n dod â phobl, bywyd gwyllt a busnesau at ei gilydd mewn ffordd newydd. Rydyn ni’n gwella cynefinoedd ac yn gwneud yr ardal yn fwy deniadol i weithio ynddi. Mae hyn nid yn unig yn helpu pobl i fwynhau gweithio yn yr ardal, ond hefyd mae'n helpu i ddenu mwy o fusnesau. Drwy wneud hyn, byddwn yn helpu i achub rhai o’r rhywogaethau mwyaf carismatig sydd i’w cael yng Nghymru. 

Wrexham Project achievements infographic

Mae ein gwaith ni ar y stad ddiwydiannol nid yn unig o fudd i fywyd gwyllt, mae hefyd yn helpu pobl i ymgysylltu mwy â byd natur. Mae busnesau'n ymuno, mae gweithwyr yn mwynhau'r amgylchedd gwell, ac mae pobl yn ymweld â'r stad i weld ei bywyd gwyllt.

Isod mae lluniau o rai o'n llwyddiannau ni.

#wildlife

Bywyd gwyllt rhyfeddol

Mae safleoedd tir llwyd yn gartref yn aml i amrywiaeth syfrdanol o fywyd gwyllt. Maen nhw’n gallu bod yn ail agos i goetir hynafol am eu bioamrywiaeth. Mae’r cynefinoedd tir agored lle roedd warysau i’w gweld ar un adeg yn gallu bod yn gartref i amrywiaeth hynod ddiddorol o rywogaethau. Isod mae detholiad o rai o'r prif rywogaethau sy'n elwa o'n gwaith ni ar y Stad.

#walks

Archwilio llwybrau cerdded ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam

Drwy ein gwaith ni ar y stad ddiwydiannol rydyn ni wedi creu ardaloedd y gall pobl ymweld â nhw a’u harchwilio: gan gynnwys Coed Duon Erlas ar ran Village Bakery; y Gofod Natur yn Hoya Lens UK; a darn o Nant Redwither, ger Ash Road South. Yn ogystal â hyn, rydyn ni wedi gweithio gyda’r awdurdod lleol a busnesau i agor llwybrau troed fel bod gweithwyr, pobl leol ac ymwelwyr yn gallu archwilio, darganfod, ymarfer a mwynhau bywyd gwyllt y Stad. Isod mae map sy’n dangos y llefydd i ymweld â nhw a theithiau cerdded byr sy’n cael eu hargymell. Cliciwch ar yr eiconau a'r llinellau am ragor o wybodaeth.


Eiconau mochyn daear = llefydd i ymweld â nhw
Llinellau oren = y llwybrau caniataol a argymhellir a’r hawliau tramwy
#volunteer

Cymryd rhan fel gwirfoddolwr

Byddem wrth ein bodd pe baech yn ymuno â'r prosiect, os ydych chi’n lleol, yn ymwelydd neu'n gweithio ar y stad. Fel rhan o hyn gallwch ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl wych a chael awyr iach ac ymarfer corff mewn ffordd gwbl gadarnhaol. Mae rhai o’r tasgau rydyn ni’n ymgymryd â nhw’n cynnwys gosod bocsys adar ac ystlumod yn eu lle, adfer pyllau, arwyddion, arolygon rhywogaethau, plygu gwrychoedd a phlannu coed a llawer mwy! Mae gwaith i’w wneud bob amser, felly cysylltwch â ni os hoffech chi helpu.

Cysylltwch â ni ynglŷn â chymryd rhan fel gwirfoddolwr

Partneriaid

Rydyn ni’n ddiolchgar i’n partneriaid ni isod sy’n rhan o’r prosiect ac yn cynnig eu harbenigedd er mwyn cyflawni mwy.   

Amphibian and Reptile Conservation logo

© ARC

Buglife logo

© Buglife

Butterfly Conservation

© Butterfly Conservation

Natural Resources Wales logo

© Natural Resources Wales

Wrexham County Borough Council logo

© Wrexham County Borough Council