Volunteer of the Year awards

Nine volunteers post in a line for a picture in front of a landscape view

Volunteers © NWWT

Gwobrau Gwirfoddolwyr 2023 - 24

Hwrê i'n gwirfoddolwyr ni!

Bob blwyddyn rydyn ni’n talu teyrnged i wirfoddolwyr sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol tuag at ein gwaith ni. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’n holl wirfoddolwyr ni – byddai’n braf iawn gallu tynnu sylw at bawb yn unigol!

Mae ein Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn ni wedi cael ei chyflwyno i ddau wirfoddolwr eithriadol – Kevin Peers a David Pritchard

Mae Gwirfoddolwr y Flwyddyn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn wobr sy’n cael ei chyflwyno yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i aelod sydd, ym marn y Cyngor, wedi gwneud cyfraniad eithriadol at lwyddiant a chynnydd yr Ymddiriedolaeth Natur yn 2023 -24.

Volunteer of the Year 2023 -24   Kevin Peers

Kevin Peers

Fe ymunodd Kevin â’n tîm gwirfoddolwyr ni yn y gogledd ddwyrain yn ôl ym mis Mawrth 2023 ac, ers hynny, mae wedi mynychu bob sesiwn bron ddwywaith yr wythnos. Mae hyn yn cynnwys y tasgau anodd, drewllyd, gwlyb ac oer rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â nhw ac mor hoff ohonyn nhw! Mae wedi gweithio ar draws bron pob un o'n 16 o warchodfeydd natur ni yn y gogledd ddwyrain, ar dasgau sy’n cynnwys gwaith technegol ar bontydd a llwybrau pren; cynnal a chadw diogelwch trydanol arbenigol; cerdded ym mhob tymor drwy'r grug bryniog yng Ngors Maen Llwyd a gyrru pyst ffens i'r creigwely calchfaen. Kevin yw un o’r bobl gyntaf i gynnig helpu gyda gwaith ad-hoc ychwanegol yn Big Pool Wood, Ddôl Uchaf a Choed y Felin. Mae ei wybodaeth a’i gefndir wedi ei wneud yn amhrisiadwy wrth gyfrannu at gyflawni llawer o dasgau ymarferol yn llwyddiannus ar draws ein gwarchodfeydd natur ni. Mae wedi cwblhau hyfforddiant torri llwyni a chyn bo hir bydd yn gwneud hyfforddiant llif gadwyn gyda ni.

Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, gwirfoddolodd Kevin fwy na 300 o oriau o'i amser. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am y cyfraniad sylweddol mae Kevin yn ei wneud at ein gwaith ni ac mae’n enillydd haeddiannol iawn o’n gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2023-24.

Volunteer of the Year 2023 -24   David Pritchard

David Pritchard

Dechreuodd David wirfoddoli gydag YNGC am y tro cyntaf ym mis Mai 2021. Doedd Matt Cole, ein Swyddog Gwarchodfeydd ni ar gyfer Ynys Môn a Bangor, ddim yn disgwyl ei weld eto ar ôl ei sesiwn gyntaf yng Nghors Goch, ond yn ffodus cafodd ei brofi yn anghywir. Mae David wedi bod yn un o’r hoelion wyth o'r dechrau un. Pur anaml fydd o’n colli gweithgor ar ddydd Mercher neu ddydd Gwener ac, ar ben hynny, mae Matt yn galw ar David yn rheolaidd ar fyr rybudd i helpu gyda choeden sydd wedi cwympo neu ffens wedi torri neu rywbeth sydd angen sylw ar unwaith.

Mae David bob amser yn barod i weithio – y cyntaf i godi ar ei draed ar ôl egwyl neu ginio fel arfer; bob amser yn brydlon ar gyfer ei gasglu yn y boreau ac yn hapus i fynd yr ail filltir pan fydd Matt yn anochel yn ymestyn y gweithgor am ychydig funudau ychwanegol ar ddiwedd y diwrnod gwaith! Fo ydi ysgrifennydd cymdeithasol answyddogol gweithgorau Matt hefyd – a dydi o byth yn anghofio pen-blwydd unrhyw un.

Yn ystod 2023-24, fe wirfoddolodd David fwy na 350 o oriau o’i amser i’n helpu ni i reoli ein gwarchodfeydd natur. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am y cyfraniad sylweddol y mae David yn ei wneud at ein gwaith ni ac mae’n enillydd haeddiannol iawn o’n gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn yn 2023-24.

 

Mae ein Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn yn cael ei chyflwyno i Anna Williams

Mae Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn wobr sy’n cael ei chyflwyno yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i wirfoddolwr ifanc sydd, ym marn y Cyngor, wedi gwneud cyfraniad eithriadol at lwyddiant a chynnydd yr Ymddiriedolaeth Natur yn 2023-24.

Young Volunteer of the Year 2023 - 24    Anna Williams

Mae Anna yn un o'n gwirfoddolwyr nodedig ni. Roedd hi’n fentor ar ein rhaglen Hyrwyddwyr Achub y Moroedd a phan ddaeth y rôl honno i ben ym mis Mawrth 2024, parhaodd Anna i roi arweiniad a gwybodaeth i bobl ifanc oedd yn cymryd rhan yn y prosiect.

Yn ôl ym mis Ionawr, yn ein sesiwn Plast Off! blynyddol! Ni i lanhau traeth, gofynnodd Anna a allai wahodd ei Haelod o'r Senedd i'r digwyddiad. Yr ateb oedd cei, wrth gwrs, ac nid yn unig yr oedd AS Ynys Môn yn bresennol, ond daeth gydag Arweinydd y Cyngor ac Anna gafodd y cyfrifoldeb o ofalu amdanyn nhw yn y digwyddiad. Yn eiriolwr brwd dros gadwraeth forol, treuliodd Anna y bore yn glanhau’r traeth gyda’r bobl leol yma sy’n gwneud penderfyniadau allweddol a manteisiodd ar y cyfle i drafod pob math o bynciau pwysig gyda nhw, gan gynnwys ein prosiect Achub Morwellt y Môr. Mae Anna yn gynrychiolydd anhygoel i YNGC a phobl ifanc yn gyffredinol!

Fel aelod gweithgar o’n Fforwm Ieuenctid ni, mae Anna wedi cymryd rhan mewn llawer o sesiynau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Ymgyrch Plaladdwyr y Fforwm Ieuenctid, Gorymdaith Adfer Natur Nawr yn Llundain, Derbyniad Seneddol yn y Senedd yng Nghaerdydd a hefyd lleisio ei barn am bwnc pwysig yr hinsawdd ac eco-bryder mewn pobl ifanc. Y cyfan wrth jyglo ei hastudiaethau gan ei bod bellach yn ei blwyddyn olaf yn y chweched dosbarth! Mae Anna yn unigolyn gwirioneddol ysbrydoledig ac yn fodel rôl go iawn i’n gwirfoddolwyr iau ni.

Dyfarnwyd y wobr i Grŵp Gwirfoddol y Flwyddyn i’r gwirfoddolwyr yn siopau Parc Gwledig y Morglawdd a’r Gogarth.

Mae Grŵp Gwirfoddolwyr y Flwyddyn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn wobr sy’n cael ei chyflwyno yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i grŵp o wirfoddolwyr sydd, ym marn y Cyngor, wedi gwneud cyfraniad eithriadol at lwyddiant a chynnydd yr Ymddiriedolaeth Natur yn 2023-24.

Volunteer Group of the Year 2023 -24  Breakwater Country Park & Great Orme shop volunteers

Yn aml, mae’r bobl sy’n gwirfoddoli yn nwy siop adwerthu’r Ymddiriedolaeth yn ‘arwyr tawel’. Efallai nad yw’r gwaith maen nhw’n ei wneud mor gyffrous â phlannu coed, clirio isdyfiant neu godi ffensys, ond serch hynny, mae’r un mor hanfodol, gan ei fod yn codi arian sylweddol i’r Ymddiriedolaeth. Mae ein siopau ni ar agor 7 diwrnod yr wythnos o fis Ebrill tan ddechrau mis Tachwedd. Mae’r gwirfoddolwyr yn cynnig lleiafswm o 3 awr yr wythnos, er bod llawer yn gwneud cryn dipyn mwy na hyn. Yn 2023 - 24, gyda’i gilydd rhoddodd ein gwirfoddolwyr anhygoel ni yn y siopau fwy na 2500 o oriau o’u hamser. Mae’r ddwy ganolfan yn gweithio fel canolfannau croeso answyddogol hefyd, felly mae’n rhaid i’n holl wirfoddolwyr ni allu rhoi gwybodaeth briodol i aelodau’r cyhoedd, yn ogystal â bod yn gwbl gyfarwydd â’r holl waith y mae’r Ymddiriedolaeth yn ei wneud, ei gwarchodfeydd natur ac annog pobl i ddod yn aelodau hyd yn oed, efallai!

Daw ein gwirfoddolwyr ni o bob cefndir, ac mae gan bawb eu rheswm personol eu hunain dros fod eisiau cyfrannu. Mae ganddyn nhw i gyd un peth yn gyffredin - maen nhw'n hoff o fyd natur ac wrth eu bodd yn rhannu'r angerdd hwnnw gyda phobl eraill. Da iawn a diolch enfawr i bob un o'n gwirfoddolwyr ni yn y siopau.

 

Da iawn a diolch o galon i’n holl wirfoddolwyr ni – ni fyddem wedi gallu cyflawni cymaint heb eich help chi.