Rydym yn awyddus i gydweithio ag artist rhwng fis Medi 2022 a Chwefror 2023 i ddylunio a chynhyrchu cofeb yn dehongli hanes y cyn-ffatri ffrwydron a’r bobl fu’n gweithio ynddi yn ogystal â'r gwaith a wnaed gan YNGC ers hynny i'w reoli fel lle arbennig ar gyfer bywyd gwyllt. Bydd gofyn i’r artist weithio gyda warden y safle ac aelodau o’r gymuned leol yn ystod y cam dylunio. Yn ystod y cyfnod hefyd, bydd yr artist yn cynnal sesiynau celf i’r gymuned er mwyn creu darnau celf ar hyd un o lwybrau’r safle.
Cyllid y comisiwn : £12,500 (yn cynnwys TAW)
Gwahoddir datganiadau diddordeb erbyn y 12fed o Awst 2022. Gobeithir penodi’r artist llwyddiannus erbyn y 1af o Fedi 2022 wedi’r cam briffio a chynnig yn y broses gomisiynu.
Anfonwch eich datganiad diddordeb at Llinos Griffin, gwefus.cymru@gmail.com a Rob Booth, rob.booth@northwaleswildlifetrust.org.uk